2022 Rhif 796 (Cy. 174)
Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 26, 27, 39 a 150(5) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 20111, ac wedi cael cymeradwyaeth Senedd Cymru yn unol ag adran 150(2) o’r Mesur hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Hydref 2022.
3
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
4
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “aelod o staff” (“member of staff”) yw cyflogai i gorff neu berson naturiol sy’n gweithio i gorff ond nid aelod o fwrdd na chyngor y corff hwnnw (a rhaid dehongli “staff” (“staff”) yn unol â hynny);
ystyr “corff” (“body”) yw person a restrir yn Atodlen 6;
ystyr “un sydd wedi cofrestru” (“registrant”) yw person sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sydd wedi ei gofrestru â chorff neu’n gwneud cais i fod wedi ei gofrestru â chorff;
ystyr “unigolyn” (“individual”) yw person naturiol sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac yn gweithredu yn ei enw ei hun ond nid yw’n cynnwys un sydd wedi cofrestru sy’n gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel un sydd wedi cofrestru;
ystyr “wedi ei gofrestru” (“registered”) yw wedi ei gofrestru mewn cofrestr y mae’r corff yn ei chynnal yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad.
5
Yn y Rheoliadau hyn—
a
mae cyfeiriadau at unrhyw weithgaredd sy’n cael ei gyflawni gan gorff, neu at unrhyw wasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan gorff, i’w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad at y gweithgaredd hwnnw yn cael ei gyflawni ar ran y corff, neu at y gwasanaeth hwnnw yn cael ei ddarparu ar ran y corff, gan drydydd parti o dan drefniadau a wneir rhwng y trydydd parti a’r corff;
b
yn unol â hynny, oni bai bod hysbysiad cydymffurfio yn darparu i’r gwrthwyneb, bydd corff wedi methu â chydymffurfio â safon mewn cysylltiad â gweithgaredd y mae wedi trefnu iddo gael ei gyflawni, neu wasanaeth y mae wedi trefnu iddo gael ei ddarparu, gan drydydd parti os nad yw’r gweithgaredd hwnnw neu’r gwasanaeth hwnnw wedi ei gyflawni neu ei ddarparu yn unol â’r safon.
6
Nid oes dim byd yn y Rheoliadau hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safon mewn cysylltiad â gweithgaredd a gyflawnir ganddo neu wasanaeth a ddarperir ganddo pan fo’n cyflawni’r gweithgaredd hwnnw neu’n darparu’r gwasanaeth hwnnw ar ran trydydd parti o dan drefniadau a wneir rhyngddo ef a’r trydydd parti.
Safonau a bennir2
1
Yn Atodlen 1—
a
mae Rhan 1 yn pennu safonau cyflenwi gwasanaethau;
b
mae Rhan 2 yn darparu bod rhaid i hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safonau penodol a bennir yn Rhan 1 os yw wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â safonau penodol eraill;
c
mae Rhan 3 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.
2
Yn Atodlen 2—
a
mae Rhan 1 yn pennu safonau llunio polisi;
b
mae Rhan 2 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.
3
Yn Atodlen 3—
a
mae Rhan 1 yn pennu safonau gweithredu;
b
mae Rhan 2 yn darparu bod rhaid i hysbysiad cydymffurfio ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â safonau penodol a bennir yn Rhan 1 os yw wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â safonau penodol eraill;
c
mae Rhan 3 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.
4
Yn Atodlen 4—
a
mae Rhan 1 yn pennu safonau cadw cofnodion;
b
mae Rhan 2 yn diffinio nifer o eiriau ac ymadroddion.
5
Yn Atodlen 5—
a
mae Rhan 1 yn pennu safonau sy’n ymdrin â materion sy’n atodol i’r materion yr ymdrinnir â hwy yn y safonau a bennir yn Atodlenni 1 i 4;
b
mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch dehongli’r safonau atodol.
Safonau sy’n benodol gymwys3
1
Mae Gweinidogion Cymru yn awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg i roi hysbysiad cydymffurfio i’r personau a restrir yn Atodlen 6 sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau a bennir o dan reoliad 2 ac Atodlenni 1 i 5.
2
Ond nid awdurdodir y Comisiynydd i roi hysbysiad cydymffurfio i’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â safon 20 a safonau 23 i 32.
ATODLEN 1Safonau cyflenwi gwasanaethau
RHAN 1Y SAFONAU
1 | Safonau ynghylch gohebiaeth a anfonir gan gorff |
(1) Pan fydd corff yn ateb gohebiaeth | |
Safon 1: | Os byddwch yn cael gohebiaeth yn Gymraeg oddi wrth berson yng Nghymru, rhaid ichi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb), oni bai bod y person wedi dweud nad oes angen ateb yn Gymraeg. |
(2) Pan fydd corff yn gohebu â sawl unigolyn | |
Safon 2: | Pan fyddwch yn anfon yr un ohebiaeth at sawl unigolyn, rhaid ichi anfon fersiwn Gymraeg o’r ohebiaeth at yr unigolion ar yr un pryd ag y byddwch yn anfon unrhyw fersiwn Saesneg ohoni. |
(3) Safonau cyffredinol ynghylch gohebu | |
Safon 3: | Os byddwch yn llunio fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg gyfatebol o ohebiaeth, rhaid ichi beidio â thrin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg (er enghraifft, os yw’r fersiwn Saesneg wedi ei llofnodi, neu os oes manylion cyswllt wedi eu darparu ar y fersiwn Saesneg, rhaid i’r fersiwn Gymraeg gael ei thrin yn yr un modd). |
Safon 4: | Rhaid ichi ddatgan—
eich bod yn croesawu cael gohebiaeth yn Gymraeg, y byddwch yn ateb gohebiaeth yn Gymraeg, ac na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi. |
2 | Safonau ynghylch galwadau ffôn i gorff ac oddi wrth gorff |
Safon 5: | Pan fydd unigolyn yn cysylltu â chi ar eich prif rif ffôn (neu ar un o’ch prif rifau ffôn), neu ar unrhyw rifau llinell gymorth neu rifau canolfan alwadau, a bod yr unigolyn hwnnw yn gofyn ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg os oes aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael (drwy drosglwyddo’r alwad os oes angen)—
|
Safon 6: | Rhaid i unrhyw systemau ffôn wedi eu hawtomeiddio sydd gennych ddarparu’r gwasanaeth cyfan wedi ei awtomeiddio yn Gymraeg. |
Safon 7: | Pan fyddwch yn hysbysebu rhif gwasanaeth ffôn wedi ei awtomeiddio, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
3 | Safonau ynghylch corff yn cynnal cyfarfodydd nad ydynt ar agor i’r cyhoedd |
(1) Cyfarfodydd rhwng corff ac un unigolyn gwahoddedig arall | |
Safon 8: | Os byddwch yn gwahodd un unigolyn (“A”) yn unig i gyfarfod yng Nghymru (a dim personau eraill)—
|
(2) Cyfarfodydd rhwng corff a mwy nag un person gwahoddedig | |
Safon 9: | Os byddwch yn gwahodd mwy nag un person i gyfarfod yng Nghymru, rhaid ichi ofyn i bob unigolyn a wahoddir a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod. |
Safon 9A: | Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod yng Nghymru, a bod o leiaf 10% o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg, neu os oes angen, drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod. |
Safon 9B: | Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod yng Nghymru, a bod o leiaf 20% o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg, neu os oes angen, drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod. |
Safon 9C: | Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod yng Nghymru, a bod o leiaf 30% o’r gwahoddedigion wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg, neu os oes angen, drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod. |
4 | Safonau ynghylch cyfarfodydd a drefnir gan gorff sydd ar agor i’r cyhoedd |
Safon 10: | Os byddwch yn trefnu cyfarfod a gynhelir yng Nghymru sydd ar agor i’r cyhoedd ac y caniateir cyfranogiad cyhoeddus gan unigolyn ynddo, rhaid ichi ddatgan ar unrhyw ddeunydd sy’n ei hysbysebu, ac ar unrhyw wahoddiad iddo, fod croeso i unrhyw un sy’n bresennol ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod. |
Safon 11: | Pan fyddwch yn anfon gwahoddiadau i gyfarfod a gynhelir yng Nghymru yr ydych yn ei drefnu sydd ar agor i’r cyhoedd ac y caniateir cyfranogiad cyhoeddus gan unigolyn ynddo, rhaid ichi eu hanfon yn Gymraeg. |
Safon 12: | Os byddwch yn gwahodd personau i siarad mewn cyfarfod yng Nghymru yr ydych yn ei drefnu sydd ar agor i’r cyhoedd ac y caniateir cyfranogiad cyhoeddus gan unigolyn ynddo, rhaid ichi—
|
Safon 13: | Os byddwch yn trefnu cyfarfod a gynhelir yng Nghymru sydd ar agor i’r cyhoedd ac y caniateir cyfranogiad cyhoeddus gan unigolyn ynddo, rhaid ichi sicrhau bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod, a rhaid ichi hysbysu’r rheini sy’n bresennol ar lafar yn Gymraeg—
|
5 | Safonau ynghylch digwyddiadau cyhoeddus a drefnir neu a ariennir gan gorff |
Safon 14: | Os byddwch yn trefnu digwyddiad cyhoeddus yng Nghymru, rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth hybu’r digwyddiad (er enghraifft, o ran y ffordd y mae’r digwyddiad yn cael ei hysbysebu neu y rhoddir cyhoeddusrwydd i’r digwyddiad). |
Safon 15: | Os byddwch yn trefnu digwyddiad cyhoeddus yng Nghymru, rhaid ichi sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yn y digwyddiad (er enghraifft, mewn perthynas â gwasanaethau a gynigir i bersonau sy’n bresennol yn y digwyddiad, mewn perthynas ag arwyddion yr ydych yn eu llunio a’u harddangos yn y digwyddiad, ac mewn perthynas â chyhoeddiadau sain a wneir ynddo). |
6 | Safon ynghylch cyhoeddusrwydd a hysbysebu gan gorff |
Safon 16: | Rhaid i unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd neu ddeunydd hysbysebu yr ydych yn ei lunio pan fo’r gynulleidfa a ragwelir yn unigolyn gael ei lunio yn Gymraeg, ac os byddwch yn llunio’r deunydd yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi beidio â thrin y fersiwn Gymraeg yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg. |
7 | Safonau ynghylch corff yn arddangos deunydd yn gyhoeddus |
Safon 17: | Rhaid i unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei lunio ac yn ei arddangos yn gyhoeddus yng Nghymru gael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg. |
Safon 18: | Rhaid i unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei lunio ac yn ei arddangos mewn arddangosfa gyhoeddus yng Nghymru sydd wedi ei threfnu gennych gael ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o’r deunydd yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg. |
8 | Safonau ynghylch corff yn llunio ac yn cyhoeddi dogfennau a ffurflenni |
Safon 19: | Os byddwch yn llunio ffurflen sydd i’w chwblhau gan unigolyn, rhaid ichi ei llunio yn Gymraeg. |
Safon 20: | Os byddwch yn llunio ffurflen gais yr ydych yn ei rhoi ar gael i un sydd wedi cofrestru gael ei gynnwys ar y gofrestr a gynhelir gennych, rhaid ichi ei llunio yn Gymraeg. |
Safon 21: | Os byddwch yn llunio dogfen (ond nid ffurflen) ar gyfer un neu ragor o unigolion, rhaid ichi ei llunio yn Gymraeg—
|
Safon 22: | Os byddwch yn llunio dogfen neu ffurflen yn Gymraeg ac yn Saesneg, rhaid ichi—
|
9 | Safonau ynghylch ymchwilio i rai sydd wedi cofrestru a all arwain at achos cyfreithiol |
Safon 23: | Rhaid ichi ddatgan mewn cyhoeddiadau, canllawiau a hysbysiadau yr ydych yn eu llunio sy’n hysbysu rhai sydd wedi cofrestru (“C”) am ymchwiliadau a all arwain at achosion cyfreithiol gennych y caiff yr C y cynhelir yr ymchwiliad yn ei gylch gyflwyno ffurflenni a dogfennau a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ichi yn Gymraeg mewn perthynas â’r ymchwiliad hwnnw. |
Safon 24: | Os byddwch yn llunio ffurflen mewn perthynas ag ymchwiliad a allai arwain at achos cyfreithiol gennych sydd i’w chwblhau gan un sydd wedi cofrestru y cynhelir yr ymchwiliad yn ei gylch, rhaid ichi ei llunio yn Gymraeg. |
Safon 25: | Pan foch yn cysylltu ag un sydd wedi cofrestru (“C”) am y tro cyntaf mewn perthynas ag ymchwiliad a all arwain at achos cyfreithiol gennych yn erbyn yr C hwnnw, rhaid ichi ofyn i’r C nodi a yw C yn dymuno siarad Cymraeg mewn cyfarfodydd a galwadau ffôn sydd wedi eu hamserlennu sy’n ymwneud â’r ymchwiliad. |
Safon 25A | Os yw un sydd wedi cofrestru (“C”) wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfodydd a galwadau ffôn sydd wedi eu hamserlennu sy’n ymwneud â’r ymchwiliad, rhaid ichi gynnal y cyfarfod neu’r alwad sydd wedi ei hamserlennu yn Gymraeg neu, os oes angen, drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu wasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod. |
Safon 26: | Pan foch yn cysylltu ag un sydd wedi cofrestru (“C”) am y tro cyntaf mewn perthynas ag ymchwiliad a all arwain at achos cyfreithiol gennych yn erbyn yr C hwnnw, rhaid ichi ofyn i C nodi a yw’n dymuno cael copïau yn Gymraeg o ffurflenni a dogfennau yr ydych yn eu llunio ac sydd i fod ar gael i C. |
Safon 26A: | Pan fo un sydd wedi cofrestru (“C”) wedi nodi ei fod yn dymuno cael copïau yn Gymraeg o ffurflenni a dogfennau yr ydych yn eu llunio mewn perthynas â’r ymchwiliad ac sydd i’w rhoi ar gael i’r C hwnnw—
|
Safon 27: | Pan foch yn cael ffurflenni neu ddogfennau yn Gymraeg oddi wrth un sydd wedi cofrestru (“C”) mewn perthynas ag ymchwiliad a all arwain at achos cyfreithiol ynghylch yr C hwnnw, rhaid ichi beidio â thrin y ffurflenni hynny neu’r dogfennau hynny yn llai ffafriol na’r rhai yr ydych yn eu cael yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg materion eraill, mewn perthynas â’r amserlen ar gyfer cael y ffurflenni hynny a’r dogfennau hynny a hysbysu C am benderfyniadau). |
10 | Safonau ynghylch achosion cyfreithiol |
Safon 28: | Rhaid ichi ddatgan mewn cyhoeddiadau, canllawiau a hysbysiadau yr ydych yn eu llunio sy’n hysbysu rhai sydd wedi cofrestru am achosion cyfreithiol y caiff yr un sydd wedi cofrestru sy’n destun yr achos cyfreithiol gyflwyno ffurflenni a dogfennau a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ichi yn Gymraeg mewn perthynas â’r achos hwnnw. |
Safon 29: | Os byddwch yn llunio ffurflen mewn perthynas ag achos cyfreithiol sydd i’w chwblhau gan un sydd wedi cofrestru sy’n destun achos cyfreithiol, rhaid ichi ei llunio yn Gymraeg. |
Safon 30: | Pan fo un sydd wedi cofrestru (“C”) sy’n destun achos cyfreithiol yn cysylltu â chi am y tro cyntaf i ymateb i’r achos cyfreithiol hwnnw, rhaid ichi ofyn i’r C nodi a yw’r C yn dymuno siarad yn Gymraeg yn yr achos cyfreithiol hwnnw2. |
Safon 30A: | Os yw un sydd wedi cofrestru (“C”) wedi eich hysbysu ei fod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg mewn unrhyw achos cyfreithiol a gynhelir yn Lloegr, rhaid ichi gynnal yr achos cyfreithiol yn Gymraeg neu, os oes angen, drefnu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu wasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael yn y cyfarfod. |
Safon 31: | Pan fo un sydd wedi cofrestru sy’n destun yr achos cyfreithiol (“C”) yn cysylltu â chi am y tro cyntaf i ymateb i achos cyfreithiol, rhaid ichi ofyn i C nodi a yw’n dymuno cael copïau yn Gymraeg o ffurflenni a dogfennau yr ydych yn eu llunio mewn perthynas â’r achos cyfreithiol hwnnw ac sydd i fod ar gael i C. |
Safon 31A: | Pa fo un sydd wedi cofrestru (“C”) wedi nodi ei fod yn dymuno cael copïau yn Gymraeg o ffurflenni a dogfennau yr ydych yn eu llunio mewn perthynas â’r achos cyfreithiol hwnnw ac sydd i’w rhoi ar gael i’r C hwnnw—
|
Safon 32: | Pan foch yn cael ffurflenni neu ddogfennau yn Gymraeg oddi wrth un sydd wedi cofrestru sy’n destun achos cyfreithiol (“C”) sy’n ymateb i achos cyfreithiol, rhaid ichi beidio â thrin y ffurflenni hynny neu’r dogfennau hynny yn llai ffafriol na’r rhai yr ydych yn eu cael yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg materion eraill, mewn perthynas â’r amserlen ar gyfer cael y ffurflenni hynny a’r dogfennau hynny a hysbysu C am benderfyniadau). |
11 | Safonau ynghylch gwefannau a gwasanaethau ar-lein corff |
Safon 33: | Rhaid ichi ddynodi a chynnal tudalen (neu dudalennau) ar eich gwefan sy’n darparu gwybodaeth (yn Gymraeg)—
|
Safon 34: | Os oes gennych dudalen Gymraeg ar eich gwefan sy’n cyfateb i dudalen Saesneg, rhaid ichi ddatgan yn glir ar y dudalen Saesneg fod y dudalen hefyd ar gael yn Gymraeg, a rhaid ichi ddarparu dolen uniongyrchol i’r dudalen Gymraeg ar y dudalen Saesneg gyfatebol. |
12 | Safonau ynghylch defnydd corff o’r cyfryngau cymdeithasol |
Safon 35: | Os bydd person yn cysylltu â chi drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg, rhaid ichi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb). |
Safon 36: | Pan fyddwch yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ac yn postio neges sy’n ymwneud â Chymru yn unig, rhaid ichi gyhoeddi’r neges yn Gymraeg. |
13 | Safonau ynghylch hysbysiadau a wneir gan gorff |
Safon 37: | Rhaid i unrhyw hysbysiad yr ydych yn ei gyhoeddi neu’n ei arddangos yng Nghymru ac sy’n ymwneud â gwasanaeth a ddarperir yng Nghymru gael ei gyhoeddi neu ei arddangos yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin unrhyw fersiwn Gymraeg o hysbysiad yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohono. |
Safon 38: | Pan fyddwch yn cyhoeddi neu’n arddangos hysbysiad yng Nghymru sy’n cynnwys testun Cymraeg yn ogystal â thestun Saesneg, rhaid i’r testun Cymraeg gael ei roi mewn safle fel mai hwnnw sy’n debygol o gael ei ddarllen yn gyntaf. |
14 | Safonau ar gyfer codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg a ddarperir gan gorff |
Safon 39: | Rhaid ichi hybu unrhyw wasanaeth Cymraeg a ddarperir gennych, a hysbysebu’r gwasanaeth hwnnw yn Gymraeg. |
Safon 40: | Os byddwch yn darparu gwasanaeth yn Gymraeg sy’n cyfateb i wasanaeth yr ydych yn ei ddarparu yn Saesneg, rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd neu ddogfen yr ydych yn ei lunio neu’n ei llunio, neu wefan yr ydych yn ei chyhoeddi, sy’n cyfeirio at y gwasanaeth Saesneg ddatgan hefyd fod gwasanaeth cyfatebol ar gael yn Gymraeg. |
15 | Safon ynghylch hunaniaeth gorfforaethol corff |
Safon 41: | Pan fyddwch yn llunio, yn diwygio neu’n cyflwyno eich hunaniaeth gorfforaethol, rhaid ichi beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. |
RHAN 2SAFONAU SY’N DDIBYNNOL AR SAFONAU ERAILL – AMODAU ARBENNIG
16 | Pan fydd hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau a restrir ar res benodol yng ngholofn 1 o Dabl 1, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio hwnnw hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r corff hwnnw gydymffurfio (ym mha fodd bynnag y mae Comisiynydd y Gymraeg yn ystyried ei fod yn briodol) â’r safon neu’r safonau a restrir ar y rhes honno yng ngholofn 2 (neu ag un neu ragor o’r safonau hynny pan fo hynny’n cael ei ddatgan). |
Colofn 1 | Colofn 2 | |
Rhes | Prif safon | Safon ddibynnol |
(1) | Ateb gohebiaeth | |
Safon 1 | Safon 4 | |
(2) | Gohebu â sawl person | |
Safon 2 | Safon 3 Safon 4 | |
(3) | Codi ymwybyddiaeth ynghylch gohebu yn Gymraeg | |
Safon 4 | Safon 1 | |
(4) | Cyfarfodydd â mwy nag un person | |
Safon 9 | Un neu ragor o’r canlynol: Safon 9A Safon 9B Safon 9C | |
(5) | Cyfarfodydd â mwy nag un person | |
Safon 9A, 9B neu 9C | Safon 9 | |
(6) | Cyfarfodydd cyhoeddus | |
Safon 10 | Safon 13 | |
(7) | Cyfarfodydd cyhoeddus | |
Safon 13 | Safon 10 | |
(8) | Dogfennau | |
Safon 19, 20 neu 21 | Safon 22 | |
(9) | Ymchwilio a all arwain at achos cyfreithiol | |
Safon 26 | Safon 26A | |
(10) | Ymchwilio a all arwain at achos cyfreithiol | |
Safon 26A | Safon 26 | |
(11) | Achosion cyfreithiol | |
Safon 30 | Safon 30A | |
(12) | Achosion cyfreithiol | |
Safon 30A | Safon 30 | |
(13) | Achosion cyfreithiol | |
Safon 31 | Safon 31A | |
(14) | Achosion cyfreithiol | |
Safon 31A | Safon 31 |
RHAN 3DEHONGLI’R SAFONAU
17 | Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn. |
18 | Nid yw’r safonau ond yn gymwys i’r graddau y mae corff—
|
19 | Nid yw’n ofynnol i gorff lunio, arddangos nac anfon deunydd yn Gymraeg i’r graddau y mae deddfiad arall wedi pennu geiriad dogfen, arwydd neu ffurflen a fyddai’n groes i’r gofyniad hwnnw. |
20 | At ddibenion y safonau—
|
21 |
|
22 | At ddiben safonau 2, 16, 19, 20 ac 21, mae cyfeiriad at—
yn golygu deunydd cyhoeddusrwydd neu ddeunydd hysbysebu, dogfennau, ffurflenni neu ohebiaeth pa un a yw hefyd yn cael ei llunio ar gyfer personau y tu allan i Gymru, ar gael iddynt, i’w cwblhau ganddynt neu i’w hanfon atynt ai peidio. |
23 | Yn safon 6, ystyr system ffôn “wedi ei hawtomeiddio” yw system sy’n ateb galwadau ffôn ac yn arwain personau drwy drefn benodedig gyda neges wedi ei recordio sy’n gofyn, er enghraifft, i berson bwyso bysellau gwahanol er mwyn dewis opsiynau gwahanol. |
24 | At ddibenion y safonau, nid yw “cyfarfodydd” yn cynnwys achosion cyfreithiol. |
25 | Nid yw safon 15 yn gymwys pan wneir y neges y byddwch yn ei chyhoeddi dros system annerch gyhoeddus yn ystod argyfwng neu ymarfer argyfwng. |
26 | Nid yw safon 17 yn gymwys i ddeunydd a arddangosir ar wefan corff. |
27 |
|
28 |
|
29 | At ddibenion safon 21, nid yw cyfeiriadau at ddogfennau neu ddeunyddiau eraill sydd ar gael i unigolion yn cynnwys dogfennau neu ddeunyddiau nad ydynt ond ar gael yn rhinwedd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 20005. |
30 | Nid yw safon 21 yn gymwys i ddogfen a lunnir yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer rhai sydd wedi cofrestru. |
31 | Nid yw safonau 21 a 22 yn gymwys i—
|
32 | At ddibenion y safonau hyn, ystyr “achos cyfreithiol” yw achos cyfreithiol mewn perthynas ag un sydd wedi cofrestru. |
33 | At ddibenion safonau 25 a 26, mae corff yn cysylltu ag un sydd wedi cofrestru am y tro cyntaf pan fydd yn cysylltu â’r un sydd wedi cofrestru am y tro cyntaf ar ôl y dyddiad y mae hysbysiad cydymffurfio wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon. |
34 | At ddibenion safonau 30 ac 31, mae un sydd wedi cofrestru yn cysylltu â chorff am y tro cyntaf pan fydd yr un sydd wedi cofrestru yn cysylltu â’r corff am y tro cyntaf ar ôl y dyddiad y mae hysbysiad cydymffurfio wedi ei gwneud yn ofynnol i’r corff gydymffurfio â’r safon. |
35 | Nid yw safonau 33 i 34 (gwefannau) yn gymwys i—
|
36 | Nid yw safonau 1 i 4 (gohebu) yn gymwys i ohebiaeth a anfonir drwy’r cyfryngau cymdeithasol (gweler safon 35 mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol). |
37 | Nid yw safonau 35 ac 36 (y cyfryngau cymdeithasol) yn gymwys i—
|
38 | At ddibenion safonau 37 a 38, nid yw “hysbysiad” yn cynnwys hysbysiadau a ragnodir gan ddeddfiad. |
39 |
|
ATODLEN 2Safonau llunio polisi
RHAN 1Y SAFONAU
1 | Safonau ynghylch ystyried effeithiau penderfyniadau polisi a wneir gan gorff ar y Gymraeg |
Safon 42: | Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n diwygio polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid ichi ystyried pa effeithiau, os o gwbl (pa un a yw’r rheini yn bositif neu’n andwyol), y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael ar—
|
Safon 43: | Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n diwygio polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid ichi ystyried sut y gellid llunio’r polisi (neu sut y gellid newid polisi sydd eisoes yn bodoli) fel y byddai’r penderfyniad polisi yn cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar—
|
Safon 44: | Pan fyddwch yn llunio polisi newydd, neu’n adolygu neu’n diwygio polisi sydd eisoes yn bodoli, rhaid ichi ystyried sut y gellid llunio’r polisi (neu sut y gellid newid polisi sydd eisoes yn bodoli) fel na fyddai’r penderfyniad polisi yn cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol, ar—
|
Safon 45: | Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen ystyried yr effeithiau (pa un a yw’r rheini yn bositif neu’n andwyol) y byddai’r penderfyniad polisi o dan ystyriaeth yn eu cael ar y canlynol, a cheisio barn ynghylch yr effeithiau hynny—
|
Safon 46: | Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen ystyried sut y gellid llunio neu ddiwygio’r polisi o dan ystyriaeth fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar y canlynol, a cheisio barn ynghylch hynny—
|
Safon 47: | Pan fyddwch yn cyhoeddi dogfen ymgynghori sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i’r ddogfen ystyried sut y gellid llunio neu ddiwygio’r polisi o dan ystyriaeth fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol, ar y canlynol, a cheisio barn ynghylch hynny—
|
Safon 48: | Pan fyddwch yn comisiynu neu’n gwneud gwaith ymchwil y bwriedir iddo eich cynorthwyo i wneud penderfyniad polisi, rhaid ichi sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried pa effeithiau, os o gwbl (a pha un a yw’r rheini yn bositif neu’n andwyol), y byddai’r penderfyniad polisi o dan ystyriaeth yn eu cael ar—
|
Safon 49: | Pan fyddwch yn comisiynu neu’n gwneud gwaith ymchwil y bwriedir iddo eich cynorthwyo i wneud penderfyniad polisi, rhaid ichi sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad polisi o dan ystyriaeth fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar—
|
Safon 50: | Pan fyddwch yn comisiynu neu’n gwneud gwaith ymchwil y bwriedir iddo eich cynorthwyo i wneud penderfyniad polisi, rhaid ichi sicrhau bod yr ymchwil yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad polisi o dan ystyriaeth fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol, ar—
|
RHAN 2DEHONGLI’R SAFONAU
2 | Yn Rhan 1 o’r Atodlen hon, ystyr “penderfyniad polisi” yw unrhyw benderfyniad a wneir gan gorff sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau neu gynnal ei fusnes neu ymgymeriad arall, ac mae’n cynnwys, ymysg pethau eraill (ac fel y bo’n briodol i’r corff), benderfyniadau ynghylch—
|
3 | Yn Rhan 1 o’r Atodlen hon, mae cyfeiriad at effeithiau positif neu effeithiau andwyol yn gyfeiriad at yr effeithiau hynny pa un a ydynt yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. |
ATODLEN 3Safonau gweithredu
RHAN 1Y SAFONAU
1 | Safonau ynghylch corff yn meithrin sgiliau yn y Gymraeg drwy gynllunio a hyfforddi ei weithlu |
Safon 51: | Rhaid ichi asesu sgiliau Cymraeg eich cyflogeion. |
Safon 52: | Rhaid ichi ddarparu cyrsiau hyfforddi er mwyn i’ch cyflogeion ddatblygu—
|
Safon 53: | Pan fyddwch yn darparu gwybodaeth i gyflogeion newydd (er enghraifft, drwy broses ymsefydlu), rhaid ichi ddarparu gwybodaeth at ddiben codi eu hymwybyddiaeth o’r Gymraeg. |
Safon 54: | Rhaid ichi ddarparu cyfleoedd yn ystod oriau gwaith i’ch cyflogeion i gael gwersi Cymraeg sylfaenol. |
Safon 55: | Rhaid ichi ddarparu cyfleoedd i’ch cyflogeion, sydd wedi cwblhau hyfforddiant Cymraeg sylfaenol i gael hyfforddiant pellach, yn rhad ac am ddim, er mwyn datblygu eu sgiliau yn yr iaith. |
Safon 56: | Rhaid ichi ddarparu cyfleoedd i gyflogeion i gael hyfforddiant, yn rhad ac am ddim, i wella eu sgiliau Cymraeg. |
2 | Safonau ynghylch corff yn recriwtio ac yn penodi |
Safon 57: | Pan fyddwch yn asesu’r gofynion ar gyfer swydd newydd neu swydd wag, rhaid ichi asesu’r angen am sgiliau yn y Gymraeg, a’i chategoreiddio fel swydd pan fo un neu ragor o’r canlynol yn gymwys—
|
Safon 57A: | Pan fyddwch yn hysbysebu swydd yr ydych wedi ei chategoreiddio fel un sy’n gofyn bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol, yn ddymunol neu fod angen eu dysgu, rhaid ichi—
|
Safon 58: | Pan fyddwch yn hysbysebu swydd—
rhaid ichi ddatgan y caniateir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac na fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. |
Safon 58A: | Os byddwch yn cyhoeddi ffurflen gais am swydd—
rhaid ichi ei chyhoeddi yn Gymraeg a sicrhau nad yw’r fersiwn Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r fersiwn Saesneg. |
Safon 58B: | Rhaid ichi beidio â thrin cais am swydd a wneir yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg materion eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau yr ydych yn ei osod ar gyfer cael ceisiadau ac mewn perthynas ag unrhyw amserlen ar gyfer hysbysu ymgeiswyr am benderfyniadau). |
Safon 59: | Rhaid ichi sicrhau bod eich ffurflen gais am swydd—
yn rhoi lle i’r ymgeisydd nodi ei fod yn dymuno i gyfweliad neu ddull arall o asesiad gael ei gynnal yn Gymraeg ac os yw ymgeisydd yn dymuno hynny, rhaid ichi gynnal unrhyw gyfweliad neu ddull arall o asesiad yn Gymraeg, neu, os oes angen, ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd neu wasanaeth cyfieithu olynol o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw. |
RHAN 2SAFONAU SY’N DDIBYNNOL AR SAFONAU ERAILL – AMODAU ARBENNIG
3 | Pan fydd hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un o’r safonau a restrir ar res benodol yng ngholofn 1 o Dabl 1, rhaid i’r hysbysiad cydymffurfio hwnnw hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r corff hwnnw gydymffurfio (ym mha fodd bynnag y mae Comisiynydd y Gymraeg yn ystyried ei fod yn briodol) â’r safon neu’r safonau a restrir ar y rhes honno yng ngholofn 2. |
Colofn 1 | Colofn 2 | |
---|---|---|
Rhes | Prif safon | Safon ddibynnol |
(1) | Recriwtio a phenodi | |
Safon 57 | Safon 57A | |
(2) | Recriwtio a phenodi | |
Safon 58 | Safon 58A Safon 58B |
RHAN 3DEHONGLI’R SAFONAU
4 | Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn. |
5 | At ddibenion safonau 57 a 57A yn unig—
|
6 | At ddibenion safon 57A nid yw’r gofyniad i hysbysebu swydd yn Gymraeg yn golygu mai dim ond yn Gymraeg y dylid llunio’r hysbyseb, ei hanfon, ei chyhoeddi, ei harddangos, ei rhoi ar gael neu ei dyroddi. |
7 | At ddiben safon 58A mae cyfeiriadau at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yn cynnwys, ymysg materion eraill, beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol o ran—
|
ATODLEN 4Safonau Cadw Cofnodion
RHAN 1Y SAFONAU
1 | Safonau ynghylch corff yn cadw cofnodion |
Safon 60: | Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y cwynion yr ydych yn eu cael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau. |
Safon 61: | Rhaid ichi gadw copi o unrhyw gŵyn ysgrifenedig yr ydych yn ei chael sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. |
Safon 62: | Rhaid ichi gadw cofnod (yn dilyn asesiadau o sgiliau Cymraeg eich cyflogeion a wnaed yn unol â safon 51) o nifer y cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol a, phan fo hynny’n wybyddus ichi, rhaid ichi gadw cofnod o lefel sgiliau’r cyflogeion hynny. |
Safon 63: | Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a gategoreiddiwyd (yn unol â safon 57) fel swyddi sy’n gofyn—
|
RHAN 2DEHONGLI’R SAFONAU
2 | Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn. |
3 | At ddibenion safonau 60, 62 a 63, ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn ariannol y corff ei hun. |
ATODLEN 5Safonau sy’n ymdrin â Materion Atodol
RHAN 1Y SAFONAU
1 | Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau |
Safon 64: | Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael ar eich gwefan. |
2 | Corff yn cyhoeddi gweithdrefn gwyno |
Safon 65: | Rhaid ichi—
|
3 | Corff yn llunio adroddiad blynyddol ynglŷn â safonau |
Safon 66: |
|
4 | Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg |
Safon 67: | Rhaid ichi ddarparu i Gomisiynydd y Gymraeg (os bydd yn gofyn amdani) unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau cyflenwi gwasanaethau, y safonau llunio polisi neu’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. |
RHAN 2DEHONGLI’R SAFONAU
5 | Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn. |
6 | At ddiben safon 66, ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn ariannol y corff ei hun. |
7 | At ddiben y safonau, nid yw gofyniad i lunio neu gyhoeddi unrhyw ddeunydd ysgrifenedig yn Gymraeg yn golygu y dylid llunio neu gyhoeddi’r deunydd hwnnw yn Gymraeg yn unig, ac nid yw’n golygu ychwaith y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni bai bod hynny yn cael ei ddatgan yn benodol yn y safon). |
ATODLEN 6
Yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Y Cyngor Ceiropractig Cyffredinol
Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol
Y Cyngor Fferyllol Cyffredinol
Y Cyngor Meddygol Cyffredinol
Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Y Cyngor Optegol Cyffredinol
Y Cyngor Osteopathig Cyffredinol
Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)