xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud fel rhan o gyfres o reoliadau sy’n gysylltiedig â sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig yng Nghymru drwy reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”).

Mae 5 Rhan i’r Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch cychwyn a dehongli’r Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 2 yn diwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 fel y bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gallu cyfarwyddo cyd-bwyllgorau corfforedig i gyhoeddi gwybodaeth sy’n ymwneud â’u perfformiad.

Mae Rhan 2 hefyd yn mewnosod adran 115A newydd ac Atodlen 10A newydd yn Neddf 2021. Effaith y darpariaethau newydd hyn yw cymhwyso’r rhan fwyaf o Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2021 (perfformiad cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru) i gyd-bwyllgorau corfforedig, gydag addasiadau sy’n gwneud y Bennod honno yn addas ar gyfer amgylchiadau cyd-bwyllgorau corfforedig.

Bydd Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2021, fel y’i cymhwysir i gyd-bwyllgorau corfforedig gan yr adran 115A newydd a’r Atodlen 10A newydd, yn darparu ar gyfer asesu perfformiad cyd-bwyllgorau corfforedig. Bydd hefyd yn rhoi pwerau i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal arolygiadau o gyd-bwyllgorau corfforedig, yn ogystal â darparu ar gyfer rhoi cefnogaeth a chymorth i gyd-bwyllgorau corfforedig, ac ar gyfer ymyriadau eraill gan Weinidogion Cymru.

Mae paragraff 2 o’r Atodlen 10A newydd yn gwneud rhai addasiadau cyffredinol i gyfeiriadau ym Mhennod 1 o Ran 6, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i gyfeiriadau at brif gynghorau gael eu darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at gyd-bwyllgorau corfforedig. Fodd bynnag, rhaid darllen yr addasiadau cyffredinol hynny mewn cyfuniad â pharagraffau 3 i 17 o’r Atodlen 10A newydd sy’n gwneud addasiadau ychwanegol ac, mewn achosion penodol, addasiadau gwahanol i gyfeiriadau at brif gynghorau.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio adran 159 o Ddeddf 2021 i greu pwerau a dyletswyddau i rannu gwybodaeth at ddibenion swyddogaethau penodol y caniateir eu harfer mewn perthynas â chyd-bwyllgorau corfforedig.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyd-bwyllgorau corfforedig gydweithredu a rhoi cymorth pan fo pwyllgor trosolwg a chraffu un neu ragor o gynghorau cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig yn gwneud adroddiad neu argymhellion mewn perthynas ag arfer swyddogaeth gan y cyd-bwyllgor corfforedig. Gall hyn olygu sicrhau bod ei aelodau a’i staff yn mynychu cyfarfodydd o’r pwyllgor neu y darperir dogfennau (neu wybodaeth arall). Rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig hefyd roi sylw i unrhyw adroddiad neu argymhellion o’r fath a gyhoeddir gan y pwyllgor trosolwg a chraffu hwnnw, ac ymateb i’r adroddiad hwnnw neu’r argymhellion hynny.

Mae Rhan 3 hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio y mae rhaid i bob un o’r cyd-bwyllgorau corfforedig presennol ei benodi o dan y rheoliadau sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae’n darparu bod rhaid i’r is-bwyllgor benodi cadeirydd ac yn gwneud darpariaeth ynghylch pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd a’r weithdrefn bleidleisio.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â rheolau sefydlog cyd-bwyllgorau corfforedig drwy estyn pŵer presennol Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau penodol fabwysiadu rheolau sefydlog i reoleiddio eu trafodion a’u busnes i gynnwys cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae’r Rhan hefyd yn gwneud darpariaeth sy’n gosod dyletswydd ar gyd-bwyllgorau corfforedig i fabwysiadu rheolau sefydlog mewn perthynas â chontractau. Mae hyn yn cyfateb i adran 135 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 sy’n gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau amrywiol a chanlyniadol. Mae hyn yn cynnwys diwygio swyddogaethau is-bwyllgorau llywodraethu ac archwilio fel y’u nodir yn y rheoliadau sy’n sefydlu pob un o’r pedwar cyd-bwyllgor corfforedig presennol.

Gellir cael copi o’r asesiad effaith rheoleiddiol sy’n ymwneud â sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.