Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022

Dehongli etc.

Dehongli’r Rhan hon

14.  Yn y Rhan hon—

ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”) mewn perthynas â chyd-bwyllgor corfforedig yw cyngor cyfansoddol fel y’i nodir yn y rheoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw;

mae i “gwybodaeth esempt” (“exempt information”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10;

ystyr “gwybodaeth gyfrinachol” (“confidential information”) yw—

(a)

gwybodaeth a roddir i’r cyd-bwyllgor corfforedig gan Weinidogion Cymru o dan delerau (sut bynnag y’u mynegir) sy’n gwahardd datgelu’r wybodaeth i’r cyhoedd, a

(b)

gwybodaeth y mae ei datgelu i’r cyhoedd wedi ei wahardd drwy neu o dan unrhyw ddeddfiad neu drwy orchymyn llys,

ac yn y naill achos neu’r llall mae cyfeiriad at y rhwymedigaeth i gyfrinachedd i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio” (“governance and audit sub-committee”) mewn perthynas â chyd-bwyllgor corfforedig, yw’r is-bwyllgor o’r enw hwnnw a benodwyd gan y cyd-bwyllgor corfforedig o dan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig.