Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022

Dyletswyddau mewn perthynas â throsolwg a chraffu

Dyletswydd i gydweithredu o ran trosolwg a chraffu

8.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan fo pwyllgor trosolwg a chraffu perthnasol (“y pwyllgor”) yn gwneud adroddiad neu argymhellion o dan adran 21(2)(e) o Ddeddf 2000, a

(b)pan fo’r adroddiad neu’r argymhellion yn ymwneud ag arfer swyddogaeth cyd-bwyllgor corfforedig.

(2Rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig gydweithredu â’r pwyllgor a rhoi iddo’r cymorth rhesymol hwnnw y mae’n gofyn amdano mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau.

(3Caiff y cymorth a ddarperir o dan baragraff (2) gynnwys—

(a)trefnu i aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig fynychu cyfarfod o’r pwyllgor ac ateb cwestiynau yn y cyfarfod;

(b)trefnu i aelod o staff y cyd-bwyllgor corfforedig fynychu cyfarfod o’r pwyllgor ac ateb cwestiynau yn y cyfarfod;

(c)darparu gwybodaeth;

(d)darparu copïau o ddogfennau sydd ym meddiant y cyd-bwyllgor corfforedig neu o dan ei reolaeth.

(4Pan fo’r pwyllgor yn gwneud cais i’r cyd-bwyllgor corfforedig ddarparu gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth esempt, neu gopi o unrhyw ddogfen neu ran o ddogfen sy’n cynnwys gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth esempt, nid yw paragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyd-bwyllgor corfforedig ddarparu’r wybodaeth honno neu’r ddogfen honno i’r pwyllgor oni bai bod yr wybodaeth yn berthnasol.

(5At ddibenion paragraff (4) mae gwybodaeth yn berthnasol os yw swyddog priodol y cyd-bwyllgor corfforedig yn penderfynu bod yr wybodaeth—

(a)yn ymwneud â gweithred neu benderfyniad sy’n cael ei adolygu neu y creffir arno gan y pwyllgor, neu

(b)yn berthnasol i unrhyw adolygiad sydd wedi ei gynnwys yn unrhyw un o raglenni gwaith y pwyllgor.

(6Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn caniatáu datgelu gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth esempt gan bwyllgor trosolwg a chraffu ac eithrio fel yr awdurdodir gan unrhyw ddeddfiad arall.

(7At ddibenion y rheoliad hwn “pwyllgor trosolwg a chraffu perthnasol”, mewn perthynas â chyd-bwyllgor corfforedig yw—

(a)pwyllgor trosolwg a chraffu a benodwyd gan gyngor cyfansoddol o dan adran 21(2) o Ddeddf 2000;

(b)cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu a benodwyd o dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu) (Cymru) 2013(1) pan fo’r awdurdodau sy’n penodi yn gynghorau cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig;

(c)is-bwyllgor i bwyllgor a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b).

Dyletswydd i roi sylw

9.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo—

(a)rheoliad 8 yn gymwys, a

(b)y pwyllgor yn cyhoeddi yr adroddiad neu’r argymhelliad o dan—

(i)adran 21B(2) o Ddeddf 2000;

(ii)rheoliad 13(2) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu) (Cymru) 2013.

(2Rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig—

(a)ystyried yr adroddiad neu’r argymhelliad, a

(b)cyhoeddi datganiad yn nodi’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd yng ngoleuni’r adroddiad neu’r argymhelliad wrth arfer ei swyddogaethau.

(3Rhaid i ddatganiad o dan baragraff (2)(b) gael ei gyhoeddi cyn diwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddir yr adroddiad gan y pwyllgor.

(4Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (cyflawni swyddogaethau gan bersonau eraill)(2) yn gymwys i’r ddyletswydd a osodir gan baragraff (2)(a).

Gwybodaeth esempt

10.—(1Y disgrifiadau o wybodaeth sydd, at ddibenion y Rhan hon, yn wybodaeth esempt yw’r rheini sydd am y tro wedi eu pennu yn Rhan 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i haddaswyd wrth ei chymhwyso i’r Rhan hon gan baragraffyn ddarostyngedig i unrhyw amodau a geir yn Rhan 5 o’r Atodlen honno fel y’i haddaswyd.

(2At ddibenion paragraff (1), mae Rhannau 4 i 6 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn gymwys fel pe mewnosodwyd yn lle paragraff 22(2) o’r Atodlen honno—

(2) Any reference in Parts 4 and 5 and this Part of this Schedule to “the authority” is a reference to the corporate joint committee or, as the case may be, the sub-committee of the corporate joint committee in relation to whose proceedings or documents the question whether information is exempt or not falls to be determined and includes a reference—

(a)in the case of a corporate joint committee, to any sub-committee of the corporate joint committee, and

(b)in the case of a sub-committee, to the corporate joint committee of which it is a sub-committee.