RHAN 3Trosolwg a chraffu
Is-bwyllgorau llywodraethu ac archwilio
Penodi cadeirydd a dirprwy11
1
Rhaid i is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio i gyd-bwyllgor corfforedig benodi—
a
cadeirydd, a
b
dirprwy gadeirydd.
2
Rhaid penodi’r cadeirydd a’r dirprwy gadeirydd o blith aelodau’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.
3
Ni chaiff yr aelod a benodir yn gadeirydd hefyd fod yn aelod o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.
Trafodion etc.12
1
Mae cyfarfod is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio i gyd-bwyllgor corfforedig (“yr is-bwyllgor”) i’w gadeirio—
a
gan y cadeirydd, neu
b
os yw’r cadeirydd yn absennol, y dirprwy gadeirydd.
2
Os yw’r cadeirydd a’r dirprwy gadeirydd ill dau yn absennol caiff yr is-bwyllgor benodi un o’i aelodau eraill i gadeirio’r cyfarfod.
3
Caiff pob aelod o’r is-bwyllgor bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i’w benderfynu gan yr is-bwyllgor.
4
Caiff yr is-bwyllgor—
a
ei gwneud yn ofynnol i aelodau ac aelodau o staff y cyd-bwyllgor corfforedig fod yn bresennol ger ei fron i ateb cwestiynau, a
b
gwahodd personau eraill i fynychu cyfarfodydd o’r is-bwyllgor.
5
Mae dyletswydd ar unrhyw aelod neu aelod o staff y cyd-bwyllgor corfforedig i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan baragraff (4)(a).
6
Ond nid oes rhwymedigaeth ar berson o dan baragraff (5) i ateb unrhyw gwestiwn y byddai gan y person yr hawl i wrthod ei ateb mewn achos llys yng Nghymru a Lloegr, neu at ddibenion achos llys o’r fath.
Pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio13
1
Rhaid i is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio i gyd-bwyllgor corfforedig (“yr is-bwyllgor”) gyfarfod unwaith ym mhob blwyddyn galendr.
2
Rhaid i’r is-bwyllgor hefyd gyfarfod—
a
os yw’r cyd-bwyllgor corfforedig yn penderfynu y dylai’r is-bwyllgor gyfarfod, neu
b
os yw o leiaf un rhan o dair o aelodau’r is-bwyllgor yn hawlio cyfarfod drwy un neu ragor o hysbysiadau mewn ysgrifen a roddir i’r cadeirydd.
3
Mae dyletswydd ar y person sy’n cadeirio’r is-bwyllgor i sicrhau y cynhelir cyfarfodydd o’r is-bwyllgor fel sy’n ofynnol gan baragraffau (1) a (2).
4
Nid yw’r rheoliad hwn yn atal yr is-bwyllgor rhag cyfarfod yn ychwanegol at yr hyn sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn.