xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
8.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)pan fo pwyllgor trosolwg a chraffu perthnasol (“y pwyllgor”) yn gwneud adroddiad neu argymhellion o dan adran 21(2)(e) o Ddeddf 2000, a
(b)pan fo’r adroddiad neu’r argymhellion yn ymwneud ag arfer swyddogaeth cyd-bwyllgor corfforedig.
(2) Rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig gydweithredu â’r pwyllgor a rhoi iddo’r cymorth rhesymol hwnnw y mae’n gofyn amdano mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau.
(3) Caiff y cymorth a ddarperir o dan baragraff (2) gynnwys—
(a)trefnu i aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig fynychu cyfarfod o’r pwyllgor ac ateb cwestiynau yn y cyfarfod;
(b)trefnu i aelod o staff y cyd-bwyllgor corfforedig fynychu cyfarfod o’r pwyllgor ac ateb cwestiynau yn y cyfarfod;
(c)darparu gwybodaeth;
(d)darparu copïau o ddogfennau sydd ym meddiant y cyd-bwyllgor corfforedig neu o dan ei reolaeth.
(4) Pan fo’r pwyllgor yn gwneud cais i’r cyd-bwyllgor corfforedig ddarparu gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth esempt, neu gopi o unrhyw ddogfen neu ran o ddogfen sy’n cynnwys gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth esempt, nid yw paragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyd-bwyllgor corfforedig ddarparu’r wybodaeth honno neu’r ddogfen honno i’r pwyllgor oni bai bod yr wybodaeth yn berthnasol.
(5) At ddibenion paragraff (4) mae gwybodaeth yn berthnasol os yw swyddog priodol y cyd-bwyllgor corfforedig yn penderfynu bod yr wybodaeth—
(a)yn ymwneud â gweithred neu benderfyniad sy’n cael ei adolygu neu y creffir arno gan y pwyllgor, neu
(b)yn berthnasol i unrhyw adolygiad sydd wedi ei gynnwys yn unrhyw un o raglenni gwaith y pwyllgor.
(6) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn caniatáu datgelu gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth esempt gan bwyllgor trosolwg a chraffu ac eithrio fel yr awdurdodir gan unrhyw ddeddfiad arall.
(7) At ddibenion y rheoliad hwn “pwyllgor trosolwg a chraffu perthnasol”, mewn perthynas â chyd-bwyllgor corfforedig yw—
(a)pwyllgor trosolwg a chraffu a benodwyd gan gyngor cyfansoddol o dan adran 21(2) o Ddeddf 2000;
(b)cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu a benodwyd o dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu) (Cymru) 2013(1) pan fo’r awdurdodau sy’n penodi yn gynghorau cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig;
(c)is-bwyllgor i bwyllgor a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 8 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)
9.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo—
(a)rheoliad 8 yn gymwys, a
(b)y pwyllgor yn cyhoeddi yr adroddiad neu’r argymhelliad o dan—
(i)adran 21B(2) o Ddeddf 2000;
(ii)rheoliad 13(2) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu) (Cymru) 2013.
(2) Rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig—
(a)ystyried yr adroddiad neu’r argymhelliad, a
(b)cyhoeddi datganiad yn nodi’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd yng ngoleuni’r adroddiad neu’r argymhelliad wrth arfer ei swyddogaethau.
(3) Rhaid i ddatganiad o dan baragraff (2)(b) gael ei gyhoeddi cyn diwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddir yr adroddiad gan y pwyllgor.
(4) Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (cyflawni swyddogaethau gan bersonau eraill)(2) yn gymwys i’r ddyletswydd a osodir gan baragraff (2)(a).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 9 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)
10.—(1) Y disgrifiadau o wybodaeth sydd, at ddibenion y Rhan hon, yn wybodaeth esempt yw’r rheini sydd am y tro wedi eu pennu yn Rhan 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i haddaswyd wrth ei chymhwyso i’r Rhan hon gan baragraffyn ddarostyngedig i unrhyw amodau a geir yn Rhan 5 o’r Atodlen honno fel y’i haddaswyd.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae Rhannau 4 i 6 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn gymwys fel pe mewnosodwyd yn lle paragraff 22(2) o’r Atodlen honno—
“(2) Any reference in Parts 4 and 5 and this Part of this Schedule to “the authority” is a reference to the corporate joint committee or, as the case may be, the sub-committee of the corporate joint committee in relation to whose proceedings or documents the question whether information is exempt or not falls to be determined and includes a reference—
(a)in the case of a corporate joint committee, to any sub-committee of the corporate joint committee, and
(b)in the case of a sub-committee, to the corporate joint committee of which it is a sub-committee.”
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 10 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)
11.—(1) Rhaid i is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio i gyd-bwyllgor corfforedig benodi—
(a)cadeirydd, a
(b)dirprwy gadeirydd.
(2) Rhaid penodi’r cadeirydd a’r dirprwy gadeirydd o blith aelodau’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.
(3) Ni chaiff yr aelod a benodir yn gadeirydd hefyd fod yn aelod o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 11 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)
12.—(1) Mae cyfarfod is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio i gyd-bwyllgor corfforedig (“yr is-bwyllgor”) i’w gadeirio—
(a)gan y cadeirydd, neu
(b)os yw’r cadeirydd yn absennol, y dirprwy gadeirydd.
(2) Os yw’r cadeirydd a’r dirprwy gadeirydd ill dau yn absennol caiff yr is-bwyllgor benodi un o’i aelodau eraill i gadeirio’r cyfarfod.
(3) Caiff pob aelod o’r is-bwyllgor bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i’w benderfynu gan yr is-bwyllgor.
(4) Caiff yr is-bwyllgor—
(a)ei gwneud yn ofynnol i aelodau ac aelodau o staff y cyd-bwyllgor corfforedig fod yn bresennol ger ei fron i ateb cwestiynau, a
(b)gwahodd personau eraill i fynychu cyfarfodydd o’r is-bwyllgor.
(5) Mae dyletswydd ar unrhyw aelod neu aelod o staff y cyd-bwyllgor corfforedig i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan baragraff (4)(a).
(6) Ond nid oes rhwymedigaeth ar berson o dan baragraff (5) i ateb unrhyw gwestiwn y byddai gan y person yr hawl i wrthod ei ateb mewn achos llys yng Nghymru a Lloegr, neu at ddibenion achos llys o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 12 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)
13.—(1) Rhaid i is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio i gyd-bwyllgor corfforedig (“yr is-bwyllgor”) gyfarfod unwaith ym mhob blwyddyn galendr.
(2) Rhaid i’r is-bwyllgor hefyd gyfarfod—
(a)os yw’r cyd-bwyllgor corfforedig yn penderfynu y dylai’r is-bwyllgor gyfarfod, neu
(b)os yw o leiaf un rhan o dair o aelodau’r is-bwyllgor yn hawlio cyfarfod drwy un neu ragor o hysbysiadau mewn ysgrifen a roddir i’r cadeirydd.
(3) Mae dyletswydd ar y person sy’n cadeirio’r is-bwyllgor i sicrhau y cynhelir cyfarfodydd o’r is-bwyllgor fel sy’n ofynnol gan baragraffau (1) a (2).
(4) Nid yw’r rheoliad hwn yn atal yr is-bwyllgor rhag cyfarfod yn ychwanegol at yr hyn sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 13 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)
14. Yn y Rhan hon—
ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”) mewn perthynas â chyd-bwyllgor corfforedig yw cyngor cyfansoddol fel y’i nodir yn y rheoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw;
mae i “gwybodaeth esempt” (“exempt information”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10;
ystyr “gwybodaeth gyfrinachol” (“confidential information”) yw—
gwybodaeth a roddir i’r cyd-bwyllgor corfforedig gan Weinidogion Cymru o dan delerau (sut bynnag y’u mynegir) sy’n gwahardd datgelu’r wybodaeth i’r cyhoedd, a
gwybodaeth y mae ei datgelu i’r cyhoedd wedi ei wahardd drwy neu o dan unrhyw ddeddfiad neu drwy orchymyn llys,
ac yn y naill achos neu’r llall mae cyfeiriad at y rhwymedigaeth i gyfrinachedd i’w ddehongli yn unol â hynny;
ystyr “is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio” (“governance and audit sub-committee”) mewn perthynas â chyd-bwyllgor corfforedig, yw’r is-bwyllgor o’r enw hwnnw a benodwyd gan y cyd-bwyllgor corfforedig o dan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 14 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)