
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Newidiadau dros amser i: Adran 18


Timeline of Changes
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 15/07/2022.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022, Adran 18.

Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021LL+C
18.—(1) Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021() wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 16 o’r Atodlen—
(a)yn is-baragraff (1)(c), ar ôl “rheolaeth fewnol” mewnosoder “, rheoli perfformiad”;
(b)ar ôl is-baragraff (1)(d) mewnosoder—
“(da)adolygu ac asesu gallu CBC y De-ddwyrain i ymdrin â chwynion yn effeithiol;
(db)gwneud adroddiadau ac argymhellion mewn perthynas â gallu CBC y De-ddwyrain i ymdrin â chwynion yn effeithiol;”;
(c)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Gweler Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu), fel y’i cymhwysir gan adran 115A o’r Ddeddf honno ac Atodlen 10A iddi, ar gyfer swyddogaethau pellach yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.”;
(d)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “bod o leiaf un aelod o’r is-bwyllgor yn berson nad yw’n aelod” rhodder “nad yw traean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn aelodau”;
(e)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “y cyfansoddir o leiaf ddau draean o’r aelodaeth gan” rhodder “bod dau draean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn”;
(f)hepgorer is-baragraff (2)(c)(iv) a’r “neu” sy’n dod o’i flaen;
(g)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—
“(2A) Os yw person a ddisgrifir yn is-baragraff (2)(b) (“P”) yn peidio â bod yn aelod o gyngor cyfansoddol, mae P hefyd yn peidio â bod yn aelod o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.”
Back to top