Search Legislation

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 19

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022, Adran 19. Help about Changes to Legislation

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021LL+C

19.—(1Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 16 o’r Atodlen—

(a)yn is-baragraff (1)(c), ar ôl “rheolaeth fewnol” mewnosoder “, rheoli perfformiad”;

(b)ar ôl is-baragraff (1)(d) mewnosoder—

(da)adolygu ac asesu gallu CBC y Gogledd i ymdrin â chwynion yn effeithiol;

(db)gwneud adroddiadau ac argymhellion mewn perthynas â gallu CBC y Gogledd i ymdrin â chwynion yn effeithiol;;

(c)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A) Gweler Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu), fel y’i cymhwysir gan adran 115A o’r Ddeddf honno ac Atodlen 10A iddi, ar gyfer swyddogaethau pellach yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.;

(d)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “bod o leiaf un aelod o’r is-bwyllgor yn berson nad yw’n aelod” rhodder “nad yw traean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn aelodau”;

(e)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “y cyfansoddir o leiaf ddau draean o’r aelodaeth gan” rhodder “bod dau draean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn”;

(f)hepgorer is-baragraff (2)(c)(iv) a’r “neu” sy’n dod o’i flaen;

(g)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(2A) Os yw person a ddisgrifir yn is-baragraff (2)(b) (“P”) yn peidio â bod yn aelod o gyngor cyfansoddol, mae P hefyd yn peidio â bod yn aelod o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 19 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)

Back to top

Options/Help