RHAN 2LL+CPerfformiad a gwybodaeth sy’n gysylltiedig â pherfformiad

Diwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 i ddarparu ar gyfer cyfarwyddydau gan Archwilydd Cyffredinol CymruLL+C

3.—(1Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004(1) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 46(1) (cyrff y caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru eu cyfarwyddo i gyhoeddi gwybodaeth), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)a corporate joint committee;.

(3Yn adran 47(4)(c) (edrych ar wybodaeth sy’n ymwneud â pherfformiad), ar y dechrau mewnosoder “in the case of a relevant body which is not a corporate joint committee,”.

(4Yn adran 48 (dulliau a ganiateir o gyhoeddi gwybodaeth o dan adran 47), yn lle is-adran (1) rhodder—

(1) The permitted methods of publication referred to in section 47(4)(b) are—

(a)in the case of a relevant body which is a corporate joint committee, electronic publication;

(b)in the case of a relevant body which is not a corporate joint committee, the methods mentioned in subsections (2) and (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 3 mewn grym ar 15.7.2022, gweler rhl. 1(2)