xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
9.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo—
(a)rheoliad 8 yn gymwys, a
(b)y pwyllgor yn cyhoeddi yr adroddiad neu’r argymhelliad o dan—
(i)adran 21B(2) o Ddeddf 2000;
(ii)rheoliad 13(2) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu) (Cymru) 2013.
(2) Rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig—
(a)ystyried yr adroddiad neu’r argymhelliad, a
(b)cyhoeddi datganiad yn nodi’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd yng ngoleuni’r adroddiad neu’r argymhelliad wrth arfer ei swyddogaethau.
(3) Rhaid i ddatganiad o dan baragraff (2)(b) gael ei gyhoeddi cyn diwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddir yr adroddiad gan y pwyllgor.
(4) Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (cyflawni swyddogaethau gan bersonau eraill)(1) yn gymwys i’r ddyletswydd a osodir gan baragraff (2)(a).