2022 Rhif 802 (Cy. 178)
Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 73(1), (2)(b), (2)(d) a (2)(e), ac adran 105(2)(a) a (2)(b) a (3), o Ddeddf Llywodraeth Leol 20001.
Enwi a dod i rym1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar 5 Awst 2022.
Diwygiadau i Reoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001
2
Mae Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 20012 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3
Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol”—
a
ar ôl “gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo,” hepgorer “ac”;
b
yn lle “1995;” rhodder “1995, a”;
c
ar y diwedd mewnosoder “chyd-bwyllgor corfforedig;”.
4
Yn rheoliad 3, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
2A
Pan fo’r awdurdod perthnasol dan sylw yn gyd-bwyllgor corfforedig, yn achos aelod neu aelod cyfetholedig sydd hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—
a
cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;
b
awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 20213 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
rhaid i swyddog monitro’r cyd-bwyllgor corfforedig hefyd anfon copi o unrhyw adroddiad ac unrhyw argymhellion a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(b) neu unrhyw argymhellion a wnaed o dan baragraff (2) at swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw.
5
Yn rheoliad 6, ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
aa
pan fo unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—
i
cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;
ii
awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
anfon copi o’r adroddiad ac unrhyw argymhellion at swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;
6
Yn rheoliad 7(1)(a), ar ôl paragraff (i) mewnosoder—
ia
pan fo’r person sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—
aa
cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;
bb
awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;
7
Yn rheoliad 7A(1), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—
aa
pan fo testun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—
i
cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;
ii
awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;
8
Yn rheoliad 8—
a
ym mharagraff (4), yn lle “Rheoliad 7(b)” rhodder “rheoliad 7(1)(b)”;
b
ym mharagraff (6)(b), yn lle “Rheoliad 12(a)(i)” rhodder “rheoliad 12(1)(a)(i)”;
c
ym mharagraff (6)(c), yn lle “Reoliad 12(a)(ii)” rhodder “reoliad 12(1)(a)(ii)”.
9
Yn rheoliad 9—
a
ym mharagraff (2), yn lle “Rheoliad 12(a)(ii)” rhodder “rheoliad 12(1)(a)(ii)”;
b
ar ôl paragraff (3)(a), mewnosoder—
aa
pan fo testun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—
i
cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;
ii
awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;
10
Yn rheoliad 10(10), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—
aa
pan fo’r person sy’n ceisio caniatâd i apelio yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—
i
cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;
ii
awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;
11
Yn rheoliad 12—
a
daw’r ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1);
b
ym mharagraff (1), hepgorer y geiriau o “, a rhaid iddo roi gwybod” hyd at “penderfyniad”;
c
ar ôl paragraff (1), mewnosoder—
2
Ar ôl gwneud penderfyniad yn unol â pharagraff (1), rhaid i’r tribiwnlys apelau roi hysbysiad o’r penderfyniad hwnnw ynghyd â’r rhesymau dros y penderfyniad i:
a
unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad,
b
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,
c
Pwyllgor Safonau’r awdurdod perthnasol, a
d
pan fo unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—
i
cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;
ii
awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw.
12
Yn rheoliad 13—
a
ym mharagraff (1)—
i
yn is-baragraff (b), yn lle “Rheoliad 12(a)(i) neu (b)” rhodder “rheoliad 12(1)(a)(i) neu (b)”;
ii
yn is-baragraff (c), yn lle “Reoliad 12(a)(ii)” rhodder “reoliad 12(1)(a)(ii)”;
iii
hepgorer y geiriau o “ac anfon” hyd at “a arweiniodd at yr ymchwiliad”;
b
ar ôl paragraff (1), mewnosoder—
1A
Rhaid i’r Pwyllgor Safonau anfon copi o’r adroddiad at:
a
unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad,
b
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,
c
swyddog monitro’r awdurdod perthnasol dan sylw, a
d
pan fo unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig, a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—
i
cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;
ii
awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw.
1B
Rhaid i’r Pwyllgor Safonau hefyd gymryd camau rhesymol i anfon copi o’r adroddiad at unrhyw berson a wnaeth unrhyw honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad.
c
ym mharagraff (2), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), ar ôl “awdurdod perthnasol” mewnosoder “dan sylw”.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)