2022 Rhif 803 (Cy. 179)

Tai, Cymru

Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(1)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan baragraff 17 o Atodlen 2 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 20161, paragraff 17 o Atodlen 3 iddi, paragraff 13 o Atodlen 8A2 iddi, paragraff 13 o Atodlen 9 iddi, paragraff 11 o Atodlen 9B3 iddi a pharagraff 11 o Atodlen 9C4 iddi, ac adrannau 2555 a 256(1) a (2)6 iddi.

Yn unol ag adran 256(3), (4)(h), (i), (la)7, (m), (mb)8, (mc)9 a (5) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru10 ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a dehongliI11

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar F11 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym)11.

2

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

Diwygio Atodlen 2I22

Yn Atodlen 2 i’r Ddeddf (eithriadau i adran 7), ym mharagraff 7(3)12 ar ôl paragraff (i) mewnosoder—

j

tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â llety a ddarperir—

i

gan, neu ar ran, yr Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â gofyniad a osodwyd o dan adran 3(6) (darpariaethau cyffredinol)13 o Ddeddf Mechnïaeth 1976 (p. 63)14, neu

ii

o dan Ran 1 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau prawf) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 (p. 21)15 at y dibenion prawf (o fewn ystyr adran 116 o’r Ddeddf honno);

k

tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â—

i

llety a ddarperir o dan adran 4 (llety)17 neu Ran 6 (cymorth i geiswyr lloches etc.) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999(p. 33)18, neu

ii

cyfleusterau a ddarperir o dan baragraff 9 o Atodlen 10 i Ddeddf Mewnfudo 2016 (c. 19) (mechnïaeth mewnfudo)19 ar gyfer llety i berson a ddarperir mewn cyfeiriad a bennir mewn amod mechnïaeth mewnfudo.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 2 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 15), gweler Rheoliadau

Diwygio Atodlen 3I33

Yn Atodlen 3 i’r Ddeddf (contractau meddiannaeth a wneir gyda neu a fabwysiedir gan landlordiaid cymunedol y caniateir iddynt fod yn gontractau safonol), hepgorer paragraff 420 a’r pennawd italig o flaen y paragraff hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 3 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 15), gweler Rheoliadau

Diwygio Atodlen 8AI44

Yn Atodlen 8A i’r Ddeddf (contractau safonol y gellir eu terfynu ar ôl cyfnod hysbysu o ddau fis o dan adran 173 neu o dan gymal terfynu’r landlord), hepgorer paragraff 5 a’r pennawd italig o flaen y paragraff hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 4 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 15), gweler Rheoliadau

Diwygio Atodlen 9I55

Yn Atodlen 9 i’r Ddeddf (contractau safonol nad yw’r cyfyngiadau yn adrannau 175 a 196 (pryd y caniateir rhoi hysbysiad y landlord) yn gymwys iddynt), hepgorer paragraff 421 a’r pennawd italig o flaen y paragraff hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 5 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 15), gweler Rheoliadau

Diwygio Atodlen 9BI66

Yn Atodlen 9B i’r Ddeddf (contractau safonol cyfnod penodol y gellir eu terfynu drwy roi hysbysiad o dan adran 186), hepgorer paragraff 3 a’r pennawd italig o flaen y paragraff hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 6 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 15), gweler Rheoliadau

Diwygio Atodlen 9CI77

Yn Atodlen 9C i’r Ddeddf (contractau safonol cyfnod penodol a gaiff gynnwys cymal terfynu’r landlord hyd yn oed os ydynt wedi eu gwneud am gyfnod llai na dwy flynedd), hepgorer paragraff 3 a’r pennawd italig o flaen y paragraff hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 7 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 15), gweler Rheoliadau

Diwygiadau canlyniadol

I88

Yn Neddf Mewnfudo 2016, ym mharagraff 2 o Atodlen 11, ar ôl paragraff (m), mewnosoder—

n

in paragraph 7(3)(k)(i) of Schedule 2 to the Renting Homes (Wales) Act 2016 (anaw 1), in the English language text omit “section 4 (accommodation) or” and in the Welsh Language text omit “adran 4 (llety) neu”.

Annotations:
Commencement Information
I8

Rhl. 8 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (as diwygio gan The Renting Homes (Wales) Deddf 2016 (Commencement No. 2 ac Consequential Amendments) gorchymyn 2022 (S.I. 2022/906), ergl. 15), gweler Rheoliadau

I99

Yn Neddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 202122, yn Atodlen 6 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—

a

hepgorer paragraff 23;

b

hepgorer paragraff 26(3).

Annotations:
Commencement Information
I9

Rhl. 9 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (as diwygio gan The Renting Homes (Wales) Deddf 2016 (Commencement No. 2 ac Consequential Amendments) gorchymyn 2022 (S.I. 2022/906), ergl. 15), gweler Rheoliadau

Julie JamesY Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlenni 2, 3, 8A, 9, 9B a 9C i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) (dccc 1).

Mae rheoliad 2 yn mewnosod ym mharagraff 7(3) o Atodlen 2 (eithriadau i adran 7) i’r Ddeddf, gyfeiriad at denantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â llety a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol (er enghraifft, o dan neu yn rhinwedd trefniadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol â pherson arall), mewn cysylltiad â gofyniad a osodir o dan adran 3(6) o Ddeddf Mechnïaeth 1976. Mae hefyd yn ychwanegu cyfeiriad at lety a ddarperir o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 at y dibenion prawf (o fewn ystyr adran 1 o’r Ddeddf honno). Mae’r diwygiad hwn yn golygu na all tenantiaeth na thrwydded o’r fath fyth fod yn gontract meddiannaeth o dan y Ddeddf.

Mae rheoliad 2 hefyd yn mewnosod ym mharagraff 7(3) o Atodlen 2 i’r Ddeddf, gyfeiriad at denantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â:

a

llety a ddarperir o dan adran 4 (llety) neu Ran 6 (cymorth i geiswyr lloches) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999, a

b

cyfleusterau a ddarperir o dan baragraff 9 o Atodlen 10 (mechnïaeth mewnfudo) i Ddeddf Mewnfudo 2016 ar gyfer llety person a ddarperir mewn cyfeiriad a bennir mewn amod mechnïaeth mewnfudo.

Mae’r diwygiad hwn yn golygu na all unrhyw denantiaeth na thrwydded o’r fath fyth fod yn gontract meddiannaeth o dan y Ddeddf.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Atodlen 3 (contractau meddiannaeth a wneir gyda neu a fabwysiedir gan landlordiaid cymunedol y caniateir iddynt fod yn gontractau safonol) i’r Ddeddf i ddileu cyfeiriad at fathau penodol o lety a ddarperir i geiswyr lloches etc. er mwyn adlewyrchu na all tenantiaeth na thrwydded mewn perthynas â llety o’r fath fyth fod yn gontract meddiannaeth.

Mae rheoliad 4 yn diwygio Atodlen 8A (contractau safonol y gellir eu terfynu ar ôl cyfnod hysbysu o ddau fis o dan adran 173 neu o dan gymal terfynu’r landlord) i’r Ddeddf i ddileu cyfeiriad at fathau penodol o lety a ddarperir i geiswyr lloches etc. er mwyn adlewyrchu na all tenantiaeth na thrwydded mewn perthynas â llety o’r fath fyth fod yn gontract meddiannaeth.

Mae rheoliad 5 yn diwygio Atodlen 9 (contractau safonol nad yw’r cyfyngiadau yn adrannau 175 a 196 (pryd y caniateir rhoi hysbysiad y landlord) yn gymwys iddynt) i’r Ddeddf, i ddileu cyfeiriad at fathau penodol o lety a ddarperir i geiswyr lloches etc. er mwyn adlewyrchu na all tenantiaeth na thrwydded mewn perthynas â llety o’r fath fyth fod yn gontract meddiannaeth.

Mae rheoliad 6 yn diwygio Atodlen 9B (contractau safonol cyfnod penodol y gellir eu terfynu drwy roi hysbysiad o dan adran 186) i’r Ddeddf, i ddileu cyfeiriad at fathau penodol o lety a ddarperir i geiswyr lloches etc. er mwyn adlewyrchu na all tenantiaeth na thrwydded mewn perthynas â llety o’r fath fyth fod yn gontract meddiannaeth.

Mae rheoliad 7 yn diwygio Atodlen 9C (contractau safonol cyfnod penodol a gaiff gynnwys cymal terfynu’r landlord hyd yn oed os ydynt wedi eu gwneud am gyfnod llai na dwy flynedd) i’r Ddeddf, i ddileu cyfeiriad at fathau penodol o lety a ddarperir i geiswyr lloches etc. er mwyn adlewyrchu na all tenantiaeth na thrwydded mewn perthynas â llety o’r fath fyth fod yn gontract meddiannaeth.

Mae rheoliad 8 yn gwneud diwygiad canlyniadol i baragraff 2 o Atodlen 11 i Ddeddf Mewnfudo 2016 (“Deddf 2016”). Bydd paragraff 1 o Atodlen 11 i Ddeddf 2016, pan ddaw i rym yn llawn, yn diddymu adran 4 o Ddeddf 1999. Pan gaiff adran 4 o Ddeddf 1999 ei diddymu a phan ddaw paragraff 2 o Atodlen 11 i Ddeddf 2016 i rym, bydd y diwygiad a wneir gan reoliad 8 yn hepgor y cyfeiriad at adran 4 o Ddeddf 1999 ym mharagraff 7(3)(k)(i) o Atodlen 2 i’r Ddeddf (fel y’i mewnosodir gan reoliad 2).

Mae rheoliad 9 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Atodlen 6 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021, yn ymwneud â’r ddarpariaeth yn rheoliadau 3 a 5.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.