Enwi a chychwyn1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2022 a deuant i rym ar 22 Gorffennaf 2022.
Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 20182
1
Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 20183 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 3 (ffioedd arolygu mewnforio)—
a
ym mharagraff (1)—
i
yn lle’r geiriau “a ddisgrifir yn” rhodder “sy’n dod o fewn”;
ii
hepgorer y geiriau o “neu unrhyw beiriannau” hyd at y diwedd;
b
yn lle paragraff (2A) rhodder—
2A
Yn ddarostyngedig i baragraffau (2B), (2C) a (2E), y ffioedd sy’n daladwy gan fewnforiwr llwyth o drydedd wlad mewn cysylltiad ag atebolrwydd am wiriad ffisegol a gwiriad adnabod y caniateir eu cynnal ar y llwyth (pa un a gynhelir unrhyw wiriad o’r fath ai peidio) yw, pan fo llwyth yn cynnwys planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl, sy’n tarddu o wlad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r tabl—
a
y ffi a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o bob disgrifiad o’r fath a geir yn y llwyth; a
b
y ffi a bennir yng ngholofn 4 o’r tabl mewn cysylltiad â gwiriad adnabod o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o bob disgrifiad o’r fath a geir yn y llwyth.
c
yn lle paragraff (2B) rhodder—
2B
Mae’r ffioedd a bennir o dan baragraff (2A) mewn cysylltiad ag atebolrwydd i gynnal gwiriad ffisegol a gwiriad adnabod o flodau wedi eu torri, ffrwythau, llysiau neu ddail yn daladwy mewn cysylltiad ag un lot o’r math o dan sylw.
d
yn lle paragraff (2C) rhodder—
2C
Pan fo llwyth yn cynnwys dau neu ragor o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n dod o fewn un categori a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl, y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (2A) mewn cysylltiad ag atebolrwydd i gynnal gwiriad ffisegol neu wiriad adnabod o’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill o fewn y categori o dan sylw yw—
a
i’r graddau y mae’r llwyth yn cynnwys dau neu ragor o lotiau naill ai o flodau wedi eu torri neu o ffrwythau, llysiau neu ddail—
i
y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad ag un lot o flodau wedi eu torri neu o ffrwythau, llysiau neu ddail (yn ôl y digwydd); neu
ii
pan bennir symiau gwahanol mewn perthynas â’r lotiau o dan sylw, ffi sy’n cyfateb i’r ffi uchaf mewn perthynas ag atebolrwydd am wiriad ffisegol neu wiriad adnabod (yn ôl y digwydd);
b
i’r graddau y mae’r llwyth yn cynnwys unrhyw blanhigion eraill, unrhyw gynhyrchion planhigion neu unrhyw wrthrychau eraill sy’n tarddu o’r un wlad—
i
y ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad ag un planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall o unrhyw un o’r disgrifiadau o dan sylw; neu
ii
pan bennir symiau gwahanol mewn perthynas â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny, ffi sy’n cyfateb i’r ffi uchaf mewn perthynas ag atebolrwydd i wiriad ffisegol neu wiriad adnabod (yn ôl y digwydd).
e
hepgorer paragraff (2D);
f
yn lle paragraff (2E) rhodder—
2E
Nid yw ffi yn daladwy o dan baragraff (2A) mewn cysylltiad ag unrhyw lwyth sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir a fewnforir cyn diwedd y cyfnod graddoli trosiannol, mewn cysylltiad ag unrhyw blanhigion neu gynhyrchion planhigion a bennir yn Atodlen 2A a geir yn y llwyth hwnnw.
g
ar ôl paragraff (2E), mewnosoder—
2F
Pan fo arolygydd yn amau bod llwyth o drydedd wlad wedi ei heintio â phla planhigion a reolir ac yn cymryd sampl o’r llwyth er mwyn cynnal profion labordy i gadarnhau pa un a yw’r pla yn bresennol, y ffi sy’n daladwy gan fewnforiwr y llwyth o drydedd wlad yw £147.35 ar gyfer pob sampl a brofir.
2G
At ddibenion y rheoliad hwn, y tabl ac Atodlen 2A—
a
ystyr “dail” yw llysiau, perlysiau a sbeisys, i’r graddau y maent ar ffurf dail gyda neu heb goesynnau neu goesau ynghlwm, a dail rhydd unrhyw blanhigion eraill;
b
ystyr “llysiau”, ac eithrio yn is-baragraff (a), yw llysiau ac eithrio i’r graddau y maent ar ffurf dail.
h
yn lle paragraff (3) rhodder—
3
Yn y rheoliad hwn—
a
ystyr “categori”, mewn perthynas ag unrhyw beth a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1, yw grŵp a restrir yng ngholofn 1 mewn print trwm;
b
ystyr “pla planhigion a reolir” yw pla cwarantin Prydain Fawr, pla cwarantin Prydain Fawr dros dro, pla cwarantin ardal sy’n rhydd rhag plâu neu bla nad yw’n bla cwarantin Prydain Fawr a reoleiddir4;
c
ystyr “disgrifiad”, mewn perthynas ag unrhyw beth a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1, yw’r disgrifiad penodol y pennir ffi mewn cysylltiad ag ef;
d
ystyr “lot” yw un uned neu ragor o un nwydd, y gellir ei adnabod drwy gydrywiaeth ei gyfansoddiad a’i darddiad, sy’n ffurfio rhan o lwyth;
e
ystyr “y tabl” yw’r tabl yn Atodlen 1;
f
ystyr “llwyth o drydedd wlad” yw llwyth a gyflwynir i Gymru o drydedd wlad;
g
mae i “y cyfnod graddoli trosiannol” yr ystyr a roddir i “the transitional staging period” yn Atodiad 6 i Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion5.
3
Yn rheoliad 5A (gwasanaethau tystysgrifau allforio a gwasanaethau cyn-allforio: ffioedd), ym mharagraff (4B), yn lle “2022” rhodder “2023”.
4
Yn lle Atodlen 1, rhodder yr Atodlen 1 a geir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.
5
Hepgorer Atodlenni 1A a 2.
6
Yn lle Atodlen 2A, rhodder yr Atodlen 2A a geir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.