10.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd â datganiad ar 1 Medi 2022 ac nad oedd yn dod o fewn erthygl 9 [F1na 9A].LL+C

(2Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024 [F2neu’r flwyddyn ysgol 2024-2025].

(3Nid yw’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â phlentyn pan fydd apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.