[F117C.(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—LL+C

(a)a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,

(b)a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024 neu a fyddai yn y naill neu’r llall o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac

(c)y mae apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.

(2) Ar y diwrnod trosglwyddo—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw—

(a)y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod y gallai apêl gael ei gwneud ynddo, os nad oes apêl wedi ei gwneud;

(b)oni bai bod is-baragraff (c) yn gymwys, y diwrnod ar ôl i’r apêl gael ei dyfarnu’n derfynol, pan fo apêl wedi ei gwneud;

(c)pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl sy’n mynd rhagddi, y diwrnod ar ôl i’r weithred gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.]