Plant nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys iddynt erbyn dyddiad penodol18.

(1)

Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—

(a)

a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,

(b)

nad oes apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024,

(c)

nad yw erthygl 19 yn gymwys iddo, a

(d)

nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.

(2)

Ar 31 Awst 2024—

(a)

mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)

mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.