Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made).
Plant nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys iddynt erbyn dyddiad penodol
19.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
(a)a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,
(b)pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl sy’n mynd rhagddi ac nad yw’r weithred wedi ei chyflawni erbyn 30 Awst 2024,
(c)nad oes apêl bellach yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024, a
(d)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.
(2) Ar y diwrnod trosglwyddo—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw’r diwrnod ar ôl i’r weithred y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b) gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.
Back to top