I120

1

Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—

a

a oedd â datganiad ar 1 Ionawr 2022, a

b

y mae apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst F12025.

2

Ar y diwrnod trosglwyddo—

a

mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

b

mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

3

Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw—

a

y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod y gallai apêl gael ei gwneud ynddo, os nad oes apêl wedi ei gwneud;

b

oni bai bod is-baragraff (c) yn gymwys, y diwrnod ar ôl i apêl gael ei dyfarnu’n derfynol, pan fo apêl wedi ei gwneud;

c

pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar yr apêl sy’n mynd rhagddi, y diwrnod ar ôl i’r weithred gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.