20.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—LL+C

(a)a oedd â datganiad ar 1 Ionawr 2022, a

(b)y mae apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst [F12025].

(2Ar y diwrnod trosglwyddo—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

(3Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw—

(a)y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod y gallai apêl gael ei gwneud ynddo, os nad oes apêl wedi ei gwneud;

(b)oni bai bod is-baragraff (c) yn gymwys, y diwrnod ar ôl i apêl gael ei dyfarnu’n derfynol, pan fo apêl wedi ei gwneud;

(c)pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar yr apêl sy’n mynd rhagddi, y diwrnod ar ôl i’r weithred gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.