Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).

Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu.

Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â’r rheini sydd ym mlwyddyn 11 ac is (neu’r rheini a fyddai ym mlwyddyn 11 ac is pe baent yn mynychu ysgol), ac sydd â datganiad anghenion addysgol arbennig.

Mae erthygl 1 yn cynnwys diffiniadau, gan gynnwys y “gyfraith newydd” yn y Ddeddf a’r “hen gyfraith” yn Rhan 4 o Ddeddf Addysg 1996. Hyd nes y caiff plentyn ei drosglwyddo i’r gyfraith newydd, bydd yr hen gyfraith yn parhau i fod yn gymwys i’r plentyn ac ni fydd y gyfraith newydd yn cael effaith (erthygl 4).

Mae’r Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol priodol (gweler erthygl 1(7)) roi hysbysiad i blentyn mewn grŵp blwyddyn penodol mewn blwyddyn ysgol benodol (erthyglau 9 a 10). Er enghraifft, bydd plentyn sy’n iau na’r oedran ysgol gorfodol, sydd mewn dosbarth meithrin, sydd mewn dosbarth derbyn, neu sydd ym mlwyddyn 6, blwyddyn 10 neu flwyddyn 11 (neu a fyddai yn unrhyw un o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol) yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023. Dyddiad yr hysbysiad a roddir i blentyn penodol fydd y dyddiad y mae’r plentyn yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd. Nid yw’r ddyletswydd ar yr awdurdod lleol priodol i roi hysbysiad yn gymwys pan allai plentyn neu riant y plentyn ddwyn apêl, neu pan fydd plentyn neu riant y plentyn wedi dwyn apêl ac na ddyfarnwyd yn derfynol ar yr apêl honno. Mewn achos o’r fath, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r amser ar gyfer dwyn apêl ddod i ben (os na ddygir apêl) neu pan ddyfernir yn derfynol ar yr apêl (erthygl 11).

Caiff yr awdurdod lleol priodol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn. Mae hysbysiad CDU yn golygu y bernir bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf ar ddyddiad yr hysbysiad ac y bwriedir llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn (erthygl 5). Mae hysbysiad Dim CDU yn golygu y bernir nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf ar ddyddiad yr hysbysiad (erthygl 6).

Caiff plentyn sydd â datganiad neu riant y plentyn ofyn bod hysbysiad yn cael ei roi (erthygl 13). Pan fo cynllun datblygu unigol wedi ei lunio yn dilyn hysbysiad CDU, rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r plentyn a rhiant y plentyn o fewn 12 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad oni bai bod amgylchiadau penodol yn gymwys (erthygl 14).

Caiff yr awdurdod lleol priodol hefyd, o dan amgylchiadau eithriadol, roi i unrhyw blentyn a rhiant y plentyn hwnnw hysbysiad ADY a fydd yn trosglwyddo’r plentyn i’r gyfraith newydd (erthygl 15).

Os nad yw’r plentyn wedi trosglwyddo i’r gyfraith newydd erbyn diwedd y flwyddyn ysgol y dylai’r plentyn fod wedi trosglwyddo ynddi, mae erthyglau 16 i 19 yn nodi ar ba ddyddiad y mae’r hen gyfraith yn peidio â chael effaith ac y mae’r gyfraith newydd yn cael effaith mewn perthynas â’r plentyn.

Mae erthygl 21 yn gymwys pan fo datganiad plentyn yn peidio â chael ei gynnal. Bydd y plentyn yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd ar y dyddiad y mae datganiad y plentyn yn peidio â chael ei gynnal.

Mae erthygl 22 yn gymwys i blentyn sy’n peidio â bod yn gyfrifoldeb i’r awdurdod lleol sy’n cynnal y datganiad. Bydd y plentyn yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn gyfrifoldeb i’r awdurdod lleol oni bai y gallai’r plentyn neu riant y plentyn ddwyn apêl, neu fod y plentyn neu riant y plentyn wedi dwyn apêl ac na ddyfarnwyd yn derfynol ar yr apêl honno.

Wrth lunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn sydd â datganiad, rhaid rhoi sylw i’r datganiad a gynhelir mewn perthynas â’r plentyn yn union cyn trosglwyddo i’r gyfraith newydd (erthygl 23).

Mae erthygl 24 yn adlewyrchu, at ddibenion y Gorchymyn hwn, adran 84 o’r Ddeddf sy’n darparu nad yw dyletswyddau ac amodau penodol mewn perthynas â phlant (e.e. i roi copi o gynllun datblygu unigol i blentyn) yn gymwys os ystyrir nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.

Mae erthygl 25 yn darparu nad yw dyletswyddau ac amodau penodol mewn perthynas â rhieni yn y Gorchymyn hwn (e.e. i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i riant) yn gymwys pan fydd y plentyn yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol.