Galluedd plant17.

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae paragraff (3) yn gymwys i blentyn y mae mater yn mynd rhagddo mewn perthynas ag ef ar 1 Medi 2022.

(2)

Nid oes dim yn yr erthygl hon sy’n gymwys i berson pan fydd y person hwnnw yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol.

(3)

Nid yw dyletswydd ym mharagraff (4) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.

(4)

Y dyletswyddau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) yw—

(a)

y ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn yn erthygl 9;

(b)

y ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan blentyn o dan erthygl 10;

(c)

y ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i blentyn o fewn 12 wythnos yn erthygl 11(1).

(5)

Pan fo paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (4) (a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.

(6)

Pan fo paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â dyletswydd ym mharagraff (4) (a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.