Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 10) 2022

CychwynLL+C

4.  Daw darpariaethau’r Ddeddf a restrir ym mharagraffau (a) i (o) o erthygl 2 i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â pherson ifanc y mae cynllun datblygu unigol—

(a)yn cael ei lunio ar ei gyfer o dan adran 40 neu ei gadw ar ei gyfer o dan adran 42 o’r Ddeddf; neu

(b)yn cael ei lunio neu ei gynnal ar ei gyfer o dan adran 14 o’r Ddeddf o ganlyniad i reoliad 23 o Reoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 4 mewn grym ar y dyddiad gwneud