Enwi a dehongliLL+C
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 11) 2022.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “anhawster dysgu” yr un ystyr â “learning difficulty”—
yn adran 312(2)(1) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol yn Lloegr,
yn adran 20 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol yn Lloegr;
mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;
mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 579(2) o Ddeddf 1996;
mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC plan” yn adran 37(2)(3) o Ddeddf 2014;
mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr un ystyr â “special educational provision”—
yn adran 312(4)(4) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,
yn adran 21 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(5);
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 2014(6);
mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434(7) o Ddeddf 1996;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8(8) o Ddeddf 1996;
mae i “perchennog” yr un ystyr â “proprietor” yn adran 579 o Ddeddf 1996;
ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;
ystyr “plentyn a addysgir ac eithrio yn yr ysgol” (“a child educated other than at school”) yw plentyn y mae awdurdod lleol yng Nghymru wedi gwneud trefniadau i ddarparu addysg ac eithrio yn yr ysgol ar ei gyfer sydd o fewn ardal yr awdurdod ac—
sydd o oedran ysgol gorfodol, a
na all, oherwydd salwch, gwaharddiad o’r ysgol neu fel arall, gael addysg addas am gyfnod oni bai bod trefniadau o’r fath yn cael eu gwneud ar gyfer y plentyn;
mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr ag yn adran 15 o’r Ddeddf;
ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012(9);
ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru(10);
mae i “yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru” yr un ystyr ag ““in the area” of a local authority in Wales” yn adran 579(3B)(11) o Ddeddf 1996;
mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr un ystyr ag yn adran 99 o’r Ddeddf;
mae i “ysgol brif ffrwd” yr un ystyr â “mainstream school” yn adran 83(2) o Ddeddf 2014.
(3) At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—
(a)os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a
(b)os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei dwyn.
(4) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn os yw’r plentyn yn ardal yr awdurdod.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 1 mewn grym ar y dyddiad gwneud
Diwygiwyd gan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 59 a pharagraffau 1 a 6 o Atodlen 2, gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 ac 11 o Atodlen 3, gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 5 a pharagraff 7 o Atodlen 2, gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), adran 57, paragraff 23 o Atodlen 7 ac Atodlen 8.
Amnewidiwyd y diffiniad o “local authority” gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 3.
Diwygiwyd gan Ddeddf Gofal 2014 a Gorchymyn Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2015 (O.S. 2015/914), erthygl 2 a pharagraff 97 o’r Atodlen.
Diwygiwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 ac 11 o Atodlen 3, gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 5 a pharagraff 7 o Atodlen 2, gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140 a pharagraff 71 o Atodlen 30 ac Atodlen 31.
Diwygiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140 a paragraff 111 o Atodlen 30, a chan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 5 a pharagraff 7(3) o Atodlen 2.
Diwygiwyd adran 8 gan adran 52 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44).
Arferai Tribiwnlys Addysg Cymru gael ei alw’n Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Gweler adran 91 o’r Ddeddf.
Mewnosodwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 a 59 o Atodlen 3 a diwygiwyd gan adran 95 o’r Ddeddf.