Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 13 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022

[F114A.(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—LL+C

(a)a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022,

(b)a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024, ac

(c)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.

(2) Ar 31 Awst 2024—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.]