Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 13 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022

Newid mewn amgylchiadauLL+C

16.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022—

(a)sy’n peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru,

(b)nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad Dim CDU ar ei gyfer, ac

(c)y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.

(2Ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol honno—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

(3Yn yr erthygl hon ystyr “peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig” yw bod enw’r disgybl wedi ei ddileu o gofrestr dderbyn yr ysgol yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010(1) ond nid yw’n cynnwys disgybl sy’n peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig o ganlyniad i un neu ragor o’r canlynol—

(i)cyrraedd diwedd trydydd tymor y flwyddyn olaf y mae’r ysgol yn darparu addysg yn gyffredinol;

(ii)bod yr ysgol yn cael ei therfynu o ganlyniad i weithredu cynnig a wneir o dan adran 43 (cynigion i derfynu ysgolion prif ffrwd), adran 44 (cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion arbennig cymunedol), adran 59 (gwneud a chyhoeddi cynigion gan Weinidogion Cymru), adran 68 (cynigion gan Weinidogion Cymru) neu adran 80 (hysbysiad gan gorff llywodraethu am derfynu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol) o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013(2);

(iii)bod yr ysgol yn cael ei therfynu o ganlyniad i gyfarwyddyd a wneir o dan adran 16 (pŵer Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo bod ysgol yn cael ei chau) neu adran 81 (cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol bod ysgol arbennig gymunedol yn cael ei therfynu) o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013;

(iv)bod yr uned cyfeirio disgyblion yn cael ei chau yn barhaol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 16 mewn grym ar y dyddiad gwneud