Newid mewn amgylchiadauI117

1

Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022—

a

sy’n dod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach),

b

y mae awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol amdano,

c

nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad Dim CDU ar ei gyfer, a

d

y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.

2

Ar y dyddiad y daw’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall—

a

mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

b

mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.