18.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022—
(a)sy’n dod yn blentyn sy’n derbyn gofal,
(b)nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad Dim CDU ar ei gyfer, ac
(c)y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
(2) Ar y dyddiad y daw’r plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 18 mewn grym ar y dyddiad gwneud