Enwi a dehongli
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 15) 2022.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;
mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC plan” yn adran 37(2) o Ddeddf 2014;
ystyr “Deddf 1996” (“ the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(1);
ystyr “Deddf 2014” (“ the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 2014(2);
ystyr “y Ddeddf” (“ the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8(3) o Ddeddf 1996.
(3) At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—
(a)os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a
(b)os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei dwyn.
1996 p. 56.
2014 p. 6.
Diwygiwyd adran 8 gan adran 52 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44).