2022 Rhif 948 (Cy. 204)

Anifeiliaid, CymruIechyd Anifeiliaid

Rheoliadau Symud Anifeiliaid Anwes yn Anfasnachol (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2022

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan Erthygl 38 o Reoliad (EU) Rhif 576/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar symud anifeiliaid anwes yn anfasnachol1, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag Erthygl 39(7) o’r Rheoliad hwnnw2, cyn gwneud y Rheoliadau hyn, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r cyrff a’r personau hynny y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli’r buddiannau y mae’n debygol y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt yn sylweddol, a’r cyrff neu’r personau eraill hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.