Search Legislation

Rheoliadau Symud Anifeiliaid Anwes yn Anfasnachol (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2022

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 948 (Cy. 204)

Anifeiliaid, Cymru

Iechyd Anifeiliaid

Rheoliadau Symud Anifeiliaid Anwes yn Anfasnachol (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2022

Gwnaed

6 Medi 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

8 Medi 2022

Yn dod i rym

1 Hydref 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan Erthygl 38 o Reoliad (EU) Rhif 576/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar symud anifeiliaid anwes yn anfasnachol(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag Erthygl 39(7) o’r Rheoliad hwnnw(2), cyn gwneud y Rheoliadau hyn, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r cyrff a’r personau hynny y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli’r buddiannau y mae’n debygol y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt yn sylweddol, a’r cyrff neu’r personau eraill hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

Enwi, cychwyn, dod i ben, cymhwyso a rhychwant

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Symud Anifeiliaid Anwes yn Anfasnachol (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2022 a deuant i ben ar 1 Ebrill 2023.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn rhychwantu Cymru a Lloegr.

Dirymu

2.  Mae Rheoliadau Symud Anifeiliaid Anwes yn Anfasnachol (Diwygio) (Cymru) 2022(3) wedi eu dirymu o 1 Hydref 2022.

Diwygiadau i Reoliad (EU) Rhif 576/2013

3.—(1Mae Rheoliad (EU) Rhif 576/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar symud anifeiliaid anwes yn anfasnachol wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodiad 4 (gofynion dilysrwydd ar gyfer prawf titradiad gwrthgorff y gynddaredd)—

(a)ym mhwynt 2(b), ar y diwedd mewnosoder “, except where point 2A applies”;

(b)ar ôl pwynt 2, mewnosoder—

2A.  This point applies where, the Welsh Ministers have administered a test which measures a level of antibody to rabies virus in serum of the animal tested equal to or greater than 0.3 EU/ml and using an enzyme linked immunosorbent assay method that meets the validation standards set out in Chapter 1.1.6 of the Manual of Diagnostic Tests and Vaccines for Terrestrial Animals 2022;(4).

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

6 Medi 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae rheoliad 2 yn dirymu Rheoliadau Symud Anifeiliaid Anwes yn Anfasnachol (Diwygio) (Cymru) 2022 o 1 Hydref 2022.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliad (EU) Rhif 576/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar symud anifeiliaid anwes yn anfasnachol (EUR 576/2013), er mwyn caniatáu i brawf titr gwrthgorff arall gael ei ddefnyddio ar anifeiliaid anwes sy’n dod i Gymru o’r tu allan i’r DU. Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar 1 Ebrill 2023.

Mae copi o’r safon ddilysu y cyfeirir ati yn rheoliad 3 ar gael i’w archwilio yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

EUR 576/2013. Diwygiwyd Erthygl 38 gan O.S. 2020/1463. Gweler y diffiniad o “appropriate authority” yn Erthygl 3A, a fewnosodwyd gan O.S. 2020/1388.

(2)

Amnewidiwyd Erthygl 39 gan O.S. 2020/1463.

(4)

Pennod 1.1.6, Manual of Diagnostic Tests and Vaccines for Terrestrial Animals, Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd, 2022 (diweddarwyd 28.06.2022): https://www.woah.org/fileadmin/Home/eng/Health_standards/tahm/1.01.06_VALIDATION.pdf.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources