Offerynnau Statudol Cymru
2022 Rhif 98 (Cy. 34) (C. 6)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaeth Drosiannol) 2022
Gwnaed
2 Chwefror 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 175(7) ac (8)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1).
Enwi a dehongli
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaeth Drosiannol) 2022.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000(2);
ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 5 Mai 2022
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2021 i rym ar 5 Mai 2022—
(a)adran 64;
(b)Atodlen 8.
Darpariaeth drosiannol
3. Er bod y darpariaethau y cyfeirir atynt yn erthygl 2 yn dod i rym, rhaid ymchwilio i’r canlynol yn unol â Phennod 3 o Ran 3 o Ddeddf 2000 fel yr oedd yn gymwys yn union cyn 5 Mai 2022—
(a)unrhyw honiad ysgrifenedig a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru cyn 5 Mai 2022 o dan adran 69(1)(a) o Ddeddf 2000;
(b)unrhyw achos arall sydd wedi dod i sylw’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o dan adran 69(1)(b) o’r Ddeddf honno o ganlyniad i unrhyw honiad a wnaed o dan adran 69(1)(a) cyn 5 Mai 2022.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
2 Chwefror 2022
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw’r pumed gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”).
Mae erthygl 2 yn dwyn adran 64 (cyflwyno Atodlen 8) o Ddeddf 2021, ac Atodlen 8 (ymddygiad aelodau llywodraeth leol: ymchwiliadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru) iddi, i rym ar 5 Mai 2022.
Mae erthygl 3 yn sicrhau nad yw cychwyn adran 64 o Ddeddf 2021 ac Atodlen 8 iddi yn effeithio ar ymchwiliadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru sy’n ymwneud â honiadau ysgrifenedig a wnaed gan unrhyw berson cyn 5 Mai 2022 o dan adran 69(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, neu unrhyw achos arall sydd wedi dod i sylw’r Ombwdsmon o ganlyniad i honiad a wnaed cyn 5 Mai 2022.
NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Gweler adran 175(1) o Ddeddf 2021 ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym drannoeth y diwrnod y cafodd Deddf 2021 y Cydsyniad Brenhinol. Gweler adran 175(3) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym 2 fis ar ôl i Ddeddf 2021 gael y Cydsyniad Brenhinol. Cafodd Deddf 2021 y Cydsyniad Brenhinol ar 20 Ionawr 2021. Gweler hefyd adran 175(4) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2021.