xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 1010 (Cy. 162)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2023

Gwnaed

15 Medi 2023

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

19 Medi 2023

Yn dod i rym

11 Hydref 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.

Enwi a dod i rym

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2023 a daw i rym ar 11 Hydref 2023.

Dyddiad prisio

2.  1 Ebrill 2024 yw’r diwrnod a bennir fel y diwrnod y cyfeirir ato i benderfynu gwerthoedd ardrethol hereditamentau annomestig at ddibenion y rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog pan fyddant yn cael eu llunio nesaf ar gyfer Cymru ar ôl i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Dirymu

3.  Mae Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2020(2) wedi ei ddirymu.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

15 Medi 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae paragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn darparu, wrth lunio rhestr ardrethu annomestig, fod gwerth ardrethol hereditament annomestig i’w benderfynu drwy gyfeirio at y diwrnod y mae rhaid llunio’r rhestr neu ar ddiwrnod cyn y diwrnod hwnnw a bennir drwy orchymyn. Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu’r diwrnod y cyfeirir ato i benderfynu gwerth ardrethol hereditament annomestig at ddibenion y rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog a lunnir ar ôl i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn pennu 1 Ebrill 2024 fel y diwrnod hwnnw.

Mae erthygl 3 yn dirymu Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1378 (Cy. 305)), a bennodd y diwrnod yr oedd hereditamentau i’w prisio at ddibenion y rhestrau a luniwyd ar 1 Ebrill 2023.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(1)

1988 p. 41. Trosglwyddwyd pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.