Rheoliad 1(4)
ATODLEN 4
Personau neilltuedig—
(a)sy’n darparu i’r cyhoedd wasanaethau dŵr (gan gynnwys cyflenwi neu ddosbarthu), a
(b)sydd, yn rhinwedd penodiad o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(1), neu yn rhinwedd amrywio’r penodiad hwnnw o dan adran 7 o’r Ddeddf honno, yn ymgymerwyr dŵr ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni.
Personau neilltuedig—
(a)sy’n darparu i’r cyhoedd wasanaethau carthffosiaeth (gan gynnwys gwaredu carthion), a
(b)sydd, yn rhinwedd penodiad o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, neu yn rhinwedd amrywio’r penodiad hwnnw o dan adran 7 o’r Ddeddf honno, yn ymgymerwyr carthffosiaeth ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni.
(1)