Enwi, dod i rym a dehongli 1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2023 a deuant i rym ar 20 Hydref 2023.

2

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Rheoliadau Optegol” yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 19972.

Diwygiadau i reoliad 1 o’r Rheoliadau Optegol 2

1

Mae rheoliad 1 (enwi, cychwyn a dehongli) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff (2)—

a

yn y diffiniad o “complex appliance”, yn lle “bifocal” rhodder “multifocal”;

b

yn y diffiniad o “face value”, yn lle “letter” rhodder “number”;

c

yn lle’r diffiniad o “NHS sight test fee” rhodder—

  • NHS sight test fee” means the fee for a sight test determined by the Welsh Ministers under section 76 of the National Health Service (Wales) Act 20063 (remuneration for persons providing general ophthalmic services);

d

yn y diffiniad o “small glasses”, yn lle “British Standard BS EN ISO 8624:2011 (Ophthalmic Optics. Spectacle Frames. Measuring System and Terminology) published on 28 February 2011” rhodder “British Standard BS EN ISO 8624:2020 (Ophthalmic Optics. Spectacle Frames. Measuring System and Vocabulary) published on 31 July 20204”;

e

yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—

  • prisoner” means a person who is detained in a prison, including a young offender institution, a secure training centre, and a naval, military or air force prison, but is, at the time of receiving any sight test under section 71 of the National Health Service (Wales) Act 20065 (arrangements for general ophthalmic services), on leave from that prison, and for the purposes of this definition—

    1. a

      secure training centre” means a place in which offenders subject to detention and training orders within the meaning given by section 233 of the Sentencing Code6 may be detained and given training and education and prepared for their release, and

    2. b

      young offender institution” means a place for the detention of offenders sentenced to detention in a young offender institution or to custody for life;

3

Ym mharagraff (3), yn lle “bifocal” rhodder “multifocal” ym mhob lle y mae’n digwydd.

Diwygiad i reoliad 8 o’r Rheoliadau Optegol 3

Ym mharagraff (2) o reoliad 8 (cymhwystra – cyflenwi teclynnau optegol), ar y diwedd mewnosoder—

f

a prisoner.

Diwygiad i reoliad 9 o’r Rheoliadau Optegol 4

Ym mharagraff (2)(a) o reoliad 9 (dyroddi talebau gan ymarferwyr meddygol offthalmig neu optegwyr), yn lle “letter” rhodder “number”.

Diwygiad i reoliad 10 o’r Rheoliadau Optegol 5

Ym mharagraff (2)(a) o reoliad 10 (dyroddi talebau gan Ymddiriedolaethau’r GIG a Byrddau Iechyd Lleol), yn lle “letter” rhodder “number”.

Diwygiad i reoliad 15 o’r Rheoliadau Optegol 6

1

Mae rheoliad 15 (cymhwystra – amnewid neu drwsio) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff (1)(a), ar ôl “child” mewnosoder “or a person of the description specified in regulation 8(2)(c) and regulation 8(3)(k) or (ka)”.

3

Ym mharagraff (1)(b) yn lle “(c), (d) or (e)” rhodder “(d), (e) or (f), or regulation 8(2)(c) and regulation 8(3)(a), (b), (e), (f), (i), (j), (l), (o), (p) or (q)”.

Diwygiad i reoliad 16 o’r Rheoliadau Optegol 7

1

Mae rheoliad 16 (cwblhau talebau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

2

Ym mharagraff 2(b), yn lle “letter” rhodder “number”.

3

Ym mharagraff 3(b), yn lle “letter” rhodder “number”.

Diwygiad i reoliad 19 o’r Rheoliadau Optegol 8

Ym mharagraff 2(b) o reoliad 19 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer amnewid neu drwsio), yn lle “letter” rhodder “number”.

Diwygiadau i’r Atodlenni i’r Rheoliadau Optegol 9

1

Mae Atodlenni 1 i 3 i’r Rheoliadau Optegol wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn lle Atodlen 1 (codau llythyren ac wynebwerthoedd talebau – cyflenwi ac amnewid) rhodder yr Atodlen 1 a geir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.

3

Yn Atodlen 2 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromig, sbectolau bach a sbectolau arbennig, a theclynnau cymhleth)—

a

ym mharagraff 1(1)(a), yn lle “£12.60” rhodder “£12.00”;

b

ym mharagraff 1(1)(b), yn lle “£15.40” rhodder “£14.00”;

c

ym mharagraff 1(1)(c), yn lle “£4.40” rhodder “£2.00”;

d

ym mharagraff 1(1)(d), yn lle “£4.90” rhodder “£2.50”;

e

ar ôl is-baragraff 1(1), mewnosoder—

1A

In addition to any increase under sub-paragraph (1), the amount in column 3 of Schedule 1 relating to a voucher with the number code 1 must be increased by £15.00 where—

a

that voucher is issued to an eligible person who is under the age of 19 years,

b

the eligible person has been issued a prescription for single vision lenses of a spherical power of between 4 and 6 dioptres, with a cylindrical power of not more than 2 dioptres, and

c

the ophthalmic medical practitioner or optician that issues the voucher considers a non-stock lens supplement is required to improve the cosmetic appearance of the optical appliance in relation to which the voucher will be used.

1B

For the purposes of sub-paragraph (1A), “non-stock lens supplement” means surfacing of the lenses or using high index or aspheric lenses.

4

Yn lle Atodlen 3 (gwerthoedd talebau – trwsio) rhodder yr Atodlen 3 a geir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

Darpariaeth drosiannol 10

1

Nid yw’r symiau a amnewidir gan reoliad 9 yn gymwys ond mewn perthynas â thaleb a ddyroddir yn unol â rheoliad 9, 10 neu 11 neu a gwblheir yn unol â rheoliad 16 o’r Rheoliadau Optegol ar neu ar ôl 20 Hydref 2023.

2

O ran taleb—

a

pan fo wedi ei dyroddi yn unol â rheoliad 9, 10 neu 11 neu wedi ei chwblhau yn unol â rheoliad 16 o’r Rheoliadau Optegol, ond

b

pan na fo wedi ei defnyddio na’i derbyn yn unol â rheoliad 12 na 17 o’r Rheoliadau Optegol ar yr adeg y daw’r Rheoliadau hyn i rym,

mae i’r daleb honno yr wynebwerth y darperir ar ei gyfer yn y Rheoliadau Optegol fel yr oeddent yn bodoli yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym ac mae gwerth adbrynu’r daleb i gael ei gyfrifo yn unol â hynny.

Eluned MorganY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru