xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gwnaed
27 Medi 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
29 Medi 2023
Yn dod i rym
20 Hydref 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 71, 129 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2023 a deuant i rym ar 20 Hydref 2023.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Rheoliadau Optegol” yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(2).
2.—(1) Mae rheoliad 1 (enwi, cychwyn a dehongli) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (2)—
(a)yn y diffiniad o “complex appliance”, yn lle “bifocal” rhodder “multifocal”;
(b)yn y diffiniad o “face value”, yn lle “letter” rhodder “number”;
(c)yn lle’r diffiniad o “NHS sight test fee” rhodder—
““NHS sight test fee” means the fee for a sight test determined by the Welsh Ministers under section 76 of the National Health Service (Wales) Act 2006(3) (remuneration for persons providing general ophthalmic services);”;
(d)yn y diffiniad o “small glasses”, yn lle “British Standard BS EN ISO 8624:2011 (Ophthalmic Optics. Spectacle Frames. Measuring System and Terminology) published on 28 February 2011” rhodder “British Standard BS EN ISO 8624:2020 (Ophthalmic Optics. Spectacle Frames. Measuring System and Vocabulary) published on 31 July 2020(4)”;
(e)yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—
““prisoner” means a person who is detained in a prison, including a young offender institution, a secure training centre, and a naval, military or air force prison, but is, at the time of receiving any sight test under section 71 of the National Health Service (Wales) Act 2006(5) (arrangements for general ophthalmic services), on leave from that prison, and for the purposes of this definition—
“secure training centre” means a place in which offenders subject to detention and training orders within the meaning given by section 233 of the Sentencing Code(6) may be detained and given training and education and prepared for their release, and
“young offender institution” means a place for the detention of offenders sentenced to detention in a young offender institution or to custody for life;”.
(3) Ym mharagraff (3), yn lle “bifocal” rhodder “multifocal” ym mhob lle y mae’n digwydd.
3. Ym mharagraff (2) o reoliad 8 (cymhwystra – cyflenwi teclynnau optegol), ar y diwedd mewnosoder—
“(f)a prisoner.”.
4. Ym mharagraff (2)(a) o reoliad 9 (dyroddi talebau gan ymarferwyr meddygol offthalmig neu optegwyr), yn lle “letter” rhodder “number”.
5. Ym mharagraff (2)(a) o reoliad 10 (dyroddi talebau gan Ymddiriedolaethau’r GIG a Byrddau Iechyd Lleol), yn lle “letter” rhodder “number”.
6.—(1) Mae rheoliad 15 (cymhwystra – amnewid neu drwsio) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1)(a), ar ôl “child” mewnosoder “or a person of the description specified in regulation 8(2)(c) and regulation 8(3)(k) or (ka)”.
(3) Ym mharagraff (1)(b) yn lle “(c), (d) or (e)” rhodder “(d), (e) or (f), or regulation 8(2)(c) and regulation 8(3)(a), (b), (e), (f), (i), (j), (l), (o), (p) or (q)”.
7.—(1) Mae rheoliad 16 (cwblhau talebau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(2) Ym mharagraff 2(b), yn lle “letter” rhodder “number”.
(3) Ym mharagraff 3(b), yn lle “letter” rhodder “number”.
8. Ym mharagraff 2(b) o reoliad 19 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer amnewid neu drwsio), yn lle “letter” rhodder “number”.
9.—(1) Mae Atodlenni 1 i 3 i’r Rheoliadau Optegol wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle Atodlen 1 (codau llythyren ac wynebwerthoedd talebau – cyflenwi ac amnewid) rhodder yr Atodlen 1 a geir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.
(3) Yn Atodlen 2 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromig, sbectolau bach a sbectolau arbennig, a theclynnau cymhleth)—
(a)ym mharagraff 1(1)(a), yn lle “£12.60” rhodder “£12.00”;
(b)ym mharagraff 1(1)(b), yn lle “£15.40” rhodder “£14.00”;
(c)ym mharagraff 1(1)(c), yn lle “£4.40” rhodder “£2.00”;
(d)ym mharagraff 1(1)(d), yn lle “£4.90” rhodder “£2.50”;
(e)ar ôl is-baragraff 1(1), mewnosoder—
“(1A) In addition to any increase under sub-paragraph (1), the amount in column 3 of Schedule 1 relating to a voucher with the number code 1 must be increased by £15.00 where—
(a)that voucher is issued to an eligible person who is under the age of 19 years,
(b)the eligible person has been issued a prescription for single vision lenses of a spherical power of between 4 and 6 dioptres, with a cylindrical power of not more than 2 dioptres, and
(c)the ophthalmic medical practitioner or optician that issues the voucher considers a non-stock lens supplement is required to improve the cosmetic appearance of the optical appliance in relation to which the voucher will be used.
(1B) For the purposes of sub-paragraph (1A), “non-stock lens supplement” means surfacing of the lenses or using high index or aspheric lenses.”
(4) Yn lle Atodlen 3 (gwerthoedd talebau – trwsio) rhodder yr Atodlen 3 a geir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
10.—(1) Nid yw’r symiau a amnewidir gan reoliad 9 yn gymwys ond mewn perthynas â thaleb a ddyroddir yn unol â rheoliad 9, 10 neu 11 neu a gwblheir yn unol â rheoliad 16 o’r Rheoliadau Optegol ar neu ar ôl 20 Hydref 2023.
(2) O ran taleb—
(a)pan fo wedi ei dyroddi yn unol â rheoliad 9, 10 neu 11 neu wedi ei chwblhau yn unol â rheoliad 16 o’r Rheoliadau Optegol, ond
(b)pan na fo wedi ei defnyddio na’i derbyn yn unol â rheoliad 12 na 17 o’r Rheoliadau Optegol ar yr adeg y daw’r Rheoliadau hyn i rym,
mae i’r daleb honno yr wynebwerth y darperir ar ei gyfer yn y Rheoliadau Optegol fel yr oeddent yn bodoli yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym ac mae gwerth adbrynu’r daleb i gael ei gyfrifo yn unol â hynny.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Medi 2023
Rheoliad 9(2)
Regulations 1(2), 9(2)(a), 10(2)(a) and 16(2)(b) and (3)(b)
(1) Type of optical appliance | (2) Number code | (3) Face value of voucher |
---|---|---|
1. Glasses with single vision lenses of a spherical power of not more than 6 dioptres with a cylindrical power of not more than 2 dioptres. | 1 | £22.00 |
2. Glasses with single vision lenses- (a) of a spherical power of more than 6 dioptres but less than 10 dioptres with a cylindrical power of not more than 6 dioptres; (b) of a spherical power of less than 10 dioptres with a cylindrical power of more than 2 dioptres but not more than 6 dioptres. | 2 | £42.00 |
3. Glasses with single vision lenses of a spherical power of 10 or more dioptres but not more than 14 dioptres with a cylindrical power of not more than 6 dioptres. | 3 | £155.00 |
4. Glasses with single vision lenses- (a) of a spherical power of more than 14 dioptres with any cylindrical power; (b) of a cylindrical power of more than 6 dioptres with any spherical power. | 4 | £276.00 |
5. Glasses with single vision lenses- (a) of a spherical power of more than 20 dioptres with any cylindrical power; (b) of a cylindrical power of more than 10 dioptres with any spherical power. | 5 | £377.00 |
6. Glasses with multifocal lenses of a spherical power of not more than 6 dioptres with a cylindrical power of not more than 2 dioptres. | 6 | £40.00 |
7. Glasses with multifocal lenses- (a) of a spherical power of more than 6 dioptres but less than 10 dioptres with a cylindrical power of not more than 6 dioptres; (b) of a spherical power less than 10 dioptres but with a cylindrical power of more than 2 dioptres but not more than 6 dioptres. | 7 | £77.00 |
8. Glasses with multifocal lenses of a spherical power of 10 or more dioptres but not more than 14 dioptres with a cylindrical power of not more than 6 dioptres. | 8 | £299.00 |
9. Glasses with prism-controlled multifocal lenses of any power or with multifocal lenses- (a) of a spherical power of more than 14 dioptres with any cylindrical power; (b) with a cylindrical power of more than 6 dioptres with any spherical power. | 9 | £387.00 |
10. Glasses with multifocal lenses- (a) of a spherical power of more than 20 dioptres with any cylindrical power; (b) with a cylindrical power of more than 10 dioptres with any spherical power. | 10 | £530.00 |
11. Glasses not falling within any of paragraphs 1 to 10 for which a prescription is given in consequence of a sight test by a Local Health Board otherwise than under an arrangement under Part 6 of the 2006 Act. | 11 | £530.00 |
12. Contact lenses for which a prescription is given in consequence of a sight test by a Local Health Board otherwise than under an arrangement under Part 6 of the 2006 Act. | 12 | £57.00” |
Rheoliad 9(4)
Regulation 19(2) and (3)
(1) Nature of Repair | (2) Number Codes – Values | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | 2 | 3 | 4 | 5 | 6 | 7 | 8 | 9 | 10 | 11 | |
£ | £ | £ | £ | £ | £ | £ | £ | £ | £ | £ | |
Repair or replacement of one lens | 6.00 | 16.00 | 72.50 | 133.00 | 183.50 | 15.00 | 33.50 | 144.50 | 188.50 | 260.00 | 260.00 |
Repair or replacement of two lenses | 12.00 | 32.00 | 145.00 | 266.00 | 367.00 | 30.00 | 67.00 | 289.00 | 377.00 | 520.00 | 520.00 |
Repair or replacement of: the front of a frame | 8.50 | 8.50 | 8.50 | 8.50 | 8.50 | 8.50 | 8.50 | 8.50 | 8.50 | 8.50 | 8.50 |
a side of a frame | 5.00 | 5.00 | 5.00 | 5.00 | 5.00 | 5.00 | 5.00 | 5.00 | 5.00 | 5.00 | 5.00 |
the whole frame | 10.00 | 10.00 | 10.00 | 10.00 | 10.00 | 10.00 | 10.00 | 10.00 | 10.00 | 10.00 | 10.00” |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“y Rheoliadau Optegol”) sy’n darparu i daliadau gael eu gwneud drwy system dalebau o ran y costau yr eir iddynt gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio teclynnau optegol.
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 1(2) o’r Rheoliadau Optegol i ddiweddaru’r cyfeiriad yn y diffiniad o “small glasses” at y ddogfen Safonau Prydeinig berthnasol, i ddiwygio’r diffiniad o “face value” er mwyn cyfeirio at godau rhif talebau, yn hytrach na chodau llythyren, i ddiwygio’r diffiniad o “NHS sight test fee”, ac i fewnosod diffiniad o “prisoner”. Mae rheoliad 2 hefyd yn diwygio rheoliad 1(2) a (3) o’r Rheoliadau Optegol i roi cyfeiriadau at “multifocal lenses”, sy’n cynnwys lensys deuffocal a lensys amrywffocal fel ei gilydd, yn lle cyfeiriadau at “bifocal lenses”.
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 8 o’r Rheoliadau Optegol i wneud carcharorion ar absenoldeb awdurdodedig yn gymwys i gael taleb ar gyfer cyflenwi teclyn optegol.
Mae rheoliadau 4, 5, 7 ac 8 yn gwneud diwygiadau i’r Rheoliadau Optegol i adlewyrchu’r newid o godau llythyren talebau i godau rhif talebau yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hynny.
Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 15 o’r Rheoliadau Optegol. Yn gyntaf, i ddarparu bod carcharorion ar absenoldeb awdurdodedig yn gymwys i gael taleb ar gyfer trwsio ac amnewid teclyn optegol o dan amgylchiadau penodedig. Yn ail, i ddarparu bod categorïau penodol o berson yn gymwys i gael taleb ar gyfer trwsio ac amnewid ni waeth pa un a yw eu teclyn optegol wedi ei golli neu ei ddifrodi o ganlyniad i salwch.
Mae rheoliad 9 a’r Atodlenni yn diwygio Atodlenni 1, 2 a 3 i’r Rheoliadau Optegol i newid gwerth talebau a ddyroddir tuag at y gost o gyflenwi, amnewid a thrwsio teclynnau optegol ac i ddarparu ar gyfer cynyddu gwerth talebau a ddyroddir i bobl gymwys o dan 19 oed o dan amgylchiadau penodol.
Mae rheoliad 10 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn perthynas â thalebau a ddyroddir neu a gwblheir ond sydd heb eu defnyddio na’u derbyn cyn 20 Hydref 2023.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Gofal Sylfaenol ac Iechyd Meddwl, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
2006 p. 42; gweler adran 206(1) am ystyr “prescribed” a “regulations”. Mae diwygiadau i adran 203 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 1997/818 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2016/305 (Cy. 101), O.S. 2016/1059 (Cy. 250) ac O.S. 2021/916 (Cy. 209). Mae offerynnau diwygio eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Mae Safon Brydeinig BS EN ISO 8624:2020 ar gael oddi wrth y Sefydliad Safonau Prydeinig, yn http://shop.bsigroup.com neu oddi wrth: BSI Customer Relations, 389 Chiswick High Road, London W4 4AL.
Gweler adran 1(1) o Ddeddf Dedfrydu 2020 (p. 17) sy’n datgan bod Rhannau 2 i 13 o’r Ddeddf honno gyda’i gilydd yn ffurfio cod o’r enw’r “Sentencing Code”.