RHAN 2Trefniadau ar gyfer gwasanaethau offthalmig

Dyletswydd i drefnu archwiliadau llygaid 3.

(1)

Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol drefnu, mewn cysylltiad â’i ardal, ar gyfer darparu archwiliadau llygaid yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(2)

Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol weinyddu’r trefniadau ar gyfer y gwasanaethau hyn yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(3)

Yn y Rheoliadau hyn—

(a)

ystyr “archwiliad llygaid” yw archwiliad o’r llygad at ddiben gwneud diagnosis o gyflwr llygaid neu benderfynu ar driniaeth ar gyfer cyflwr llygaid, neu adolygu cyflwr presennol, sy’n cynnwys y profion a’r gweithdrefnau hynny a’r cyngor hwnnw sy’n briodol i’r arwyddion a’r symptomau sy’n ymgyflwyno yn y claf, ac i anghenion y claf hwnnw, a

(b)

cyfeirir at y gwasanaethau sy’n ofynnol gan baragraff (1) fel “gwasanaethau archwilio llygaid”.

Gwasanaethau offthalmig cyffredinol a gwasanaethau offthalmig sylfaenol 4.

Yn y Rheoliadau hyn—

(a)

ystyr “gwasanaethau offthalmig cyffredinol” yw’r gwasanaethau y mae rhaid i gontractwr eu darparu o dan baragraff 23 (profion golwg) o’r telerau gwasanaeth, a

(b)

ystyr “gwasanaethau offthalmig sylfaenol” yw, gyda’i gilydd—

(i)

gwasanaethau offthalmig cyffredinol, a

(ii)

gwasanaethau archwilio llygaid.