xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
5. Mae person sy’n bodloni unrhyw un neu ragor o’r meini prawf ym mharagraff 1 o Atodlen 1 yn gymwys i gael prawf golwg o dan wasanaethau offthalmig cyffredinol (a chyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “person cymwys”).
6.—(1) Caiff person cymwys wneud cais i gontractwr am brawf golwg.
(2) Rhaid i’r cais—
(a)cael ei wneud ar ffurflen a ddarperir at y diben hwnnw i gontractwyr gan y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol, a
(b)cynnwys datganiad ysgrifenedig, wedi ei lofnodi gan y ceisydd yn ysgrifenedig neu’n electronig, i’r perwyl ei fod yn berson cymwys.
(3) Cyn darparu prawf golwg o’r fath, rhaid i gontractwr y mae cais wedi ei wneud iddo—
(a)ac eithrio pan fo paragraff (4) yn gymwys, ofyn i’r person ddangos tystiolaeth foddhaol ei fod yn bodloni un o’r meini prawf ym mharagraff 1 o Atodlen 1,
(b)pan ofynnwyd i’r person am dystiolaeth foddhaol ei fod yn berson cymwys ond nad yw wedi ei darparu, gofnodi’r ffaith honno ar ffurflen gwasanaethau offthalmig sylfaenol y person,
(c)sicrhau bod manylion y person a bras ddyddiad ei brawf golwg diwethaf, os oes un, yn cael eu cofnodi ar ffurflen gwasanaethau offthalmig sylfaenol, a
(d)ei fodloni ei hun bod y prawf golwg yn angenrheidiol.
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan—
(a)bo’r person yn gymwys oherwydd paragraff 1(1)(d) o Atodlen 1, a
(b)bo tystiolaeth foddhaol o gymhwystra’r person eisoes ar gael i’r contractwr.
(5) Mae paragraff 2 o Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch y dystiolaeth benodol y mae rhaid i gontractwr ofyn amdani cyn darparu prawf golwg i bersonau penodol.
(6) O ran y contractwr—
(a)caiff benodi aelod o’i staff i gyflawni gofynion paragraff (3)(a) a (b) ar ei ran, a
(b)rhaid iddo sicrhau bod yr aelod o staff a benodir at y diben hwnnw yn cael cyfarwyddyd i’w alluogi i gyflawni’r gofynion ar ran y contractwr.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), caniateir gwneud cais am wasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Rheoliadau hyn, a chaniateir rhoi llofnod sy’n ofynnol gan y Rheoliadau hyn—
(a)ar ran unrhyw berson o dan 16 oed, gan y naill riant neu’r llall, gan y gwarcheidwad neu gan oedolyn arall a chanddo ofal dros y plentyn;
(b)ar ran unrhyw berson o dan 18 oed sydd—
(i)yng ngofal awdurdod lleol y traddodwyd y person i’w ofal o dan Ddeddf Plant 1989(1) neu sydd wedi derbyn y person i’w ofal o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(2), gan berson sydd wedi ei awdurdodi’n briodol gan yr awdurdod hwnnw;
(ii)yng ngofal sefydliad gwirfoddol, gan y sefydliad hwnnw neu berson sydd wedi ei awdurdodi’n briodol gan y sefydliad;
(c)ar ran unrhyw berson arall nad oes ganddo’r gallu i wneud y cais neu i roi’r llofnod, gan berthynas neu unrhyw oedolyn arall a chanddo ofal dros y person hwnnw.
(8) Ni chaiff y contractwr y gwneir y cais iddo lofnodi cais.
7.—(1) Mae paragraff (5) yn gymwys pan—
(a)bo person yn cael prawf golwg, ac eithrio gwasanaethau offthalmig cyffredinol, gan gontractwr,
(b)yn union cyn cael y prawf golwg, nad oedd y person hwnnw yn berson cymwys, ac
(c)bo Amod A, Amod B neu Amod C wedi ei fodloni mewn perthynas â’r person.
(2) Mae Amod A wedi ei fodloni mewn perthynas â’r person os dangosir, wrth ddarparu’r prawf golwg, fod y person yn bodloni’r maen prawf cymhwystra ym mharagraff 1(1)(e) o Atodlen 1.
(3) Mae Amod B wedi ei fodloni mewn perthynas â’r person os yw’r person—
(a)cyn diwedd cyfnod o 14 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y darparwyd y prawf golwg, yn dod yn berson cymwys oherwydd ei fod yn bodloni’r maen prawf cymhwystra ym mharagraff 1(1)(d) o Atodlen 1 drwy gyfeirio at baragraff 1(2)(c), (d) neu (g) o’r Atodlen honno, a
(b)cyn diwedd y cyfnod o 3 mis gan ddechrau â’r diwrnod y darparwyd y prawf golwg, yn darparu i’r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysiad o hawlogaeth i’r perwyl hwnnw.
(4) Mae Amod C wedi ei fodloni mewn perthynas â’r person os yw’r person, cyn diwedd y cyfnod o 3 mis gan ddechrau â’r diwrnod y darparwyd y prawf golwg, yn dod yn berson cymwys oherwydd ei fod yn bodloni’r maen prawf cymhwystra ym mharagraff 1(1)(d) o Atodlen 1 drwy gyfeirio at baragraff (2)(n) o’r Atodlen honno.
(5) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid trin y prawf golwg fel pe bai wedi bod yn wasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Ddeddf—
(a)at ddibenion rheoliad 8(1)(a) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(3), a
(b)at y dibenion a bennir yn adran 71(8) a (9) o’r Ddeddf.
(6) Pan fo’r prawf golwg a geir gan berson yn cael ei drin yn rhinwedd paragraff (3) neu (4) fel pe bai’n wasanaethau offthalmig cyffredinol—
(a)caiff y person hwnnw ddarparu i’r Bwrdd Iechyd Lleol dderbynneb ar gyfer unrhyw ffi a dalwyd am y prawf golwg hwnnw, neu dystiolaeth arall o unrhyw ffi a dalwyd amdano, a
(b)os yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni o ran y swm a dalwyd am y prawf golwg hwnnw, rhaid iddo dalu i’r person hwnnw swm sy’n hafal i’r ffi a dalwyd.