Penderfyniadau a seiliau dros wrthod
13.—(1) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol sy’n cael cais o dan reoliad 12—
(a)penderfynu pa un ai i gymeradwyo’r ymarferydd cymwysedig i’w gynnwys yn ei restr offthalmig neu yn ei restr atodol (yn ôl y digwydd), a
(b)oni bai bod rheoliad 15 yn gymwys, hysbysu’r ymarferydd cymwysedig am ei benderfyniad o fewn 7 niwrnod i’r penderfyniad hwnnw.
(2) Cyn penderfynu ar gais o dan baragraff (1)(a), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)gwirio’r wybodaeth a ddarperir gan yr ymarferydd cymwysedig, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, yn enwedig yr wybodaeth honno a ddarperir o dan Atodlen 3,
(b)gwirio gydag Awdurdod Gwrth-dwyll y GIG a oes gan yr ymarferydd cymwysedig unrhyw hanes o dwyll,
(c)gwirio gyda Gweinidogion Cymru ynghylch unrhyw ffeithiau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn berthnasol mewn perthynas ag ymchwiliadau neu achosion, ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, sy’n ymwneud â’r ymarferydd cymwysedig neu sy’n gysylltiedig ag ef, ac ystyried y ffeithiau hynny, a
(d)cael geirdaon oddi wrth y canolwyr a enwir gan yr ymarferydd cymwysedig o dan baragraff 3(l) neu 5(h) o Atodlen 3 (fel y bo’n briodol), ac ystyried y geirdaon a ddarperir.
(3) Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol wrthod cynnwys ymarferydd cymwysedig yn ei restr gyfunol pan fo unrhyw un neu ragor o’r seiliau ym mharagraff 8 o Atodlen 3 yn gymwys.
(4) Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol wrthod cynnwys ymarferydd cymwysedig yn ei restr gyfunol pan fo unrhyw un neu ragor o’r seiliau ym mharagraff 9 o Atodlen 3 yn gymwys.
(5) Wrth ystyried gwrthodiad o dan baragraff (4), rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol ystyried y ffactorau a nodir ym mharagraff 10 o Atodlen 3.
(6) Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn gwrthod cais, rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (1)(b) gynnwys—
(a)datganiad o’r rhesymau dros benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol (gan gynnwys unrhyw ffeithiau y dibynnwyd arnynt), a
(b)manylion ynghylch sut i apelio yn erbyn y gwrthodiad o dan reoliad 28.
(7) Pan fo cais yn cael ei wneud i Fwrdd Iechyd Lleol yn unol â rheoliad 12, ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol wrthod y cais ond yn unol â pharagraffau (3) a (4).