Search Legislation

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig) (Cymru) 2023

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliadau 5, 6 a 7

ATODLEN 1Cymhwystra

Meini prawf cymhwystra

1.—(1Y meini prawf cymhwystra yw—

(a)bod person o dan 16 oed;

(b)bod person o dan 19 oed ac yn cael addysg lawnamser gymhwysol o fewn yr ystyr a roddir i “qualifying full-time education” yn adran 71(3) o’r Ddeddf (trefniadau ar gyfer gwasanaethau offthalmig cyffredinol);

(c)bod person yn 60 oed neu’n hŷn;

(d)bod adnoddau person yn cael eu trin o dan is-baragraff (2) fel pe baent yn llai nag anghenion y person hwnnw, neu’n hafal i’r anghenion hynny;

(e)bod angen i berson wisgo teclyn cymhleth;

(f)bod person wedi ei gofrestru fel person sydd â nam ar ei olwg neu berson sydd â nam difrifol ar ei olwg mewn cofrestr a gedwir gan awdurdod lleol—

(i)yng Nghymru, o dan adran 18(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (cofrestrau o bobl â nam ar eu golwg, pobl â nam ar eu clyw a phobl anabl eraill), neu

(ii)yn Lloegr, o dan adran 77(1) o Ddeddf Gofal 2014(1) (cofrestrau o oedolion â nam ar eu golwg, oedolion anabl, etc.);

(g)bod person wedi cael diagnosis o ddiabetes neu glawcoma, neu wedi cael cyngor gan offthalmolegydd fod ganddo ragdueddiad i ddatblygu glawcoma;

(h)bod person yn 40 oed neu’n hŷn ac yn rhiant, yn frawd, yn chwaer neu’n blentyn i berson sydd wedi cael diagnosis o glawcoma;

(i)bod person yn garcharor;

(j)bod person yn gweld ag un llygad yn unig;

(k)bod gan berson nam ar ei glyw;

(l)bod person wedi cael diagnosis o retinitis pigmentosa;

(m)bod person wedi cael asesiad clinigol a ddangosodd ei fod mewn perygl penodol o ddatblygu clefyd llygaid.

(2Rhaid trin adnoddau person fel pe baent yn llai nag anghenion y person hwnnw, neu’n hafal i’r anghenion hynny—

(a)os yw’r person yn cael cymhorthdal incwm;

(b)os yw’r person yn aelod o’r un teulu â pherson sy’n cael cymhorthdal incwm;

(c)os yw adnoddau incwm y person fel y’u cyfrifir yn unol â Rhan 4 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007(2) ac Atodlen 1 iddynt, at ddibenion peidio â chodi tâl o dan y Ddeddf, yn llai nag anghenion y person fel y’u cyfrifir felly, neu os ydynt yn fwy nag anghenion y person fel y’u cyfrifir felly, gan 50 y cant neu lai o swm y ffi a bennir yn rheoliad 3(2)(b) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007(3) (cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr), ac nad yw adnoddau cyfalaf y person fel y’u cyfrifir felly yn pasio’r terfyn cyfalaf;

(d)os yw’r person yn aelod o’r un teulu â pherson sy’n dod o fewn paragraff (c);

(e)os yw’r person yn cael lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm;

(f)os yw’r person yn aelod o’r un teulu â pherson sy’n dod o fewn paragraff (e);

(g)os yw’r person yn blentyn perthnasol at ddibenion adran 23A o Ddeddf Plant 1989(4) y mae awdurdod lleol cyfrifol yn cyfrannu at ei gynnal o dan adran 23B(8) o’r Ddeddf honno;

(h)os yw’r person yn berson ifanc categori 2 o fewn ystyr adran 104(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 y mae awdurdod lleol cyfrifol yn cyfrannu at ei gynnal o dan adran 109(1) o’r Ddeddf honno;

(i)os yw’r person yn aelod o deulu—

(i)y mae un aelod ohono yn cael—

(aa)credyd treth gwaith a chredyd treth plant,

(bb)credyd treth gwaith sy’n cynnwys elfen anabledd neu elfen anabledd difrifol, neu

(cc)credyd treth plant, ond nad yw’n gymwys i gael credyd treth gwaith, a

(ii)pan benderfynir adeg y dyfarndal nad yw incwm blynyddol gros y person neu’r personau y dyfernir credyd treth iddo neu iddynt o dan adran 14 o Ddeddf Credydau Treth 2002(5) yn fwy na £15,276;

(j)os yw’r person yn berson y mae hysbysiad cyfredol o hawlogaeth ar gael mewn cysylltiad ag ef;

(k)os yw’r person yn aelod o deulu y mae un aelod ohono yn cael credyd gwarant y credyd pensiwn;

(l)os yw’r person yn cael lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm;

(m)os yw’r person yn aelod o’r un teulu â pherson sy’n cael lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm;

(n)os yw’r person hwnnw yn dderbynnydd credyd cynhwysol perthnasol.

(3Yn is-baragraff (1)(g), ystyr “offthalmolegydd” yw ymarferydd meddygol y mae ei enw wedi ei gynnwys yn y gofrestr o arbenigwyr a gedwir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol o dan adran 34D o Ddeddf Meddygaeth 1983(6) (y gofrestr arbenigwyr) ac y mae’r gofrestr honno yn nodi mai offthalmoleg yw ei arbenigedd.

(4Yn is-baragraff (2)(n), ystyr “derbynnydd credyd cynhwysol perthnasol” yw person, yn y cyfnod asesu perthnasol—

(a)a gafodd ddyfarndal o gredyd cynhwysol, naill ai fel hawlydd unigol neu fel un o hawlwyr ar y cyd—

(i)pan nad oedd y dyfarndal yn cynnwys yr elfen plentyn,

(ii)pan nad oedd gan yr hawlydd unigol neu, yn ôl y digwydd, yr un o’r hawlwyr ar y cyd, allu cyfyngedig i weithio, a

(iii)pan oedd gan yr hawlydd unigol incwm a enillir neu, yn ôl y digwydd, yr hawlwyr ar y cyd incwm a enillir cyfunol, o £435.00 neu lai;

(b)a gafodd ddyfarndal o gredyd cynhwysol, naill ai fel hawlydd unigol neu fel un o hawlwyr ar y cyd—

(i)pan oedd y dyfarndal yn cynnwys yr elfen plentyn, a

(ii)pan oedd gan yr hawlydd unigol incwm a enillir neu, yn ôl y digwydd, yr hawlwyr ar y cyd incwm a enillir cyfunol, o £935.00 neu lai;

(c)a gafodd ddyfarndal o gredyd cynhwysol, naill ai fel hawlydd unigol neu fel un o hawlwyr ar y cyd—

(i)pan oedd gan yr hawlydd unigol, neu yn ôl y digwydd, un o’r hawlwyr ar y cyd neu’r ddau ohonynt, allu cyfyngedig i weithio, a

(ii)pan oedd gan yr hawlydd unigol incwm a enillir neu, yn ôl y digwydd, yr hawlwyr ar y cyd incwm a enillir cyfunol, o £935.00 neu lai;

(d)a oedd yn berson ifanc cymhwysol y mae derbynnydd y cyfeirir ato ym mharagraff (b) neu (c) yn gyfrifol amdano (o fewn yr ystyr a roddir i “qualifying young person” yn Rhan 1 o Ddeddf 2012(7) (credyd cynhwysol) a rheoliadau a wneir odani).

(5Pan fo is-baragraff (6) yn gymwys, rhaid trin person fel pe bai’n dod o fewn y disgrifiad o dderbynnydd credyd cynhwysol perthnasol yn is-baragraff (2)(n).

(6Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo’r amodau ym mharagraff (a), (b), (c) neu (d) o is-baragraff (4) wedi eu bodloni yn y cyfnod asesu y mae’r prawf golwg yn digwydd ynddo ac—

(a)nad oes cyfnod asesu perthnasol, neu

(b)na fodlonwyd yr un o’r amodau hynny yn y cyfnod asesu perthnasol.

(7Yn is-baragraff (2), mae i “teulu” yr ystyr a roddir i “family” gan adran 137(1) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(8) (dehongli Rhan VII a darpariaethau atodol) fel y mae’n gymwys i gymhorthdal incwm ac eithrio—

(a)ym mharagraffau (b), (d) a (k), mae iddo’r ystyr a roddir gan adran 35 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(9) (dehongli);

(b)ym mharagraff (g), mae iddo’r ystyr a roddir gan reoliad 2(2) o Reoliadau Credydau Treth (Diffinio a Chyfrifo Incwm) 2002(10) (dehongli);

(c)ym mharagraff (m), mae iddo’r ystyr a roddir gan reoliad 2 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008(11) (dehongli).

(8Yn y paragraff hwn—

ystyr “carcharor” (“prisoner”) yw person sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn carchar, gan gynnwys sefydliad troseddwyr ifanc, canolfan hyfforddi ddiogel, a charchar y llynges, y fyddin neu’r llu awyr, ond sydd, ar adeg cael unrhyw wasanaeth offthalmig cyffredinol, ar absenoldeb awdurdodedig o’r carchar hwnnw, ac at ddibenion y diffiniad hwn—

(a)

ystyr “canolfan hyfforddi ddiogel” yw man y caniateir cadw’n gaeth droseddwyr sy’n ddarostyngedig i orchmynion cadw a hyfforddi o fewn yr ystyr a roddir gan adran 233 o’r Cod Dedfrydu(12) (gorchymyn cadw a hyfforddi), a rhoi hyfforddiant ac addysg iddynt a’u paratoi ar gyfer eu rhyddhau, a

(b)

ystyr “sefydliad troseddwyr ifanc” yw man ar gyfer cadw’n gaeth droseddwyr sydd wedi eu dedfrydu i’w cadw’n gaeth mewn sefydliad troseddwyr ifanc neu yn y ddalfa am oes;

ystyr “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yw credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf 2012;

rhaid dehongli “credyd gwarant y credyd pensiwn” (“pension credit guarantee credit”) yn unol ag adrannau 1 a 2 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(13) (hawlogaeth; credyd gwarant);

ystyr “credyd treth gwaith” (“working tax credit”) yw credyd treth gwaith o dan adran 10 o Ddeddf Credydau Treth 2002 (hawlogaeth);

ystyr “credyd treth plant” (“child tax credit”) yw credyd treth plant o dan adran 8 o Ddeddf Credydau Treth 2002 (hawlogaeth);

ystyr “cyfnod asesu” (“assessment period”) yw’r cyfnod asesu at ddibenion credyd cynhwysol fel y’i pennir yn rheoliad 21 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013(14) (cyfnodau asesu);

ystyr “cyfnod asesu perthnasol” (“relevant assessment period”) yw’r cyfnod asesu yn union cyn y cyfnod hwnnw y mae’r prawf golwg yn digwydd ynddo;

ystyr “cymhorthdal incwm” (“income support”) yw cymhorthdal incwm o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 ac mae’n cynnwys ychwanegiad treuliau personol, ychwanegiad trosiannol arbennig ac ychwanegiad trosiannol fel y diffinnir “personal expenses addition”, “special transitional addition” a “transitional addition” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Trosiannol) 1987(15) (dehongli);

ystyr “Deddf 2012” (“the 2012 Act”) yw Deddf Diwygio Lles 2012;

ystyr “elfen anabledd” (“disability element”) yw elfen anabledd y credyd treth gwaith fel y’i pennir yn adran 11(3) o Ddeddf Credydau Treth 2002 (cyfradd uchaf);

ystyr “elfen anabledd difrifol” (“severe disability element”) yw elfen anabledd difrifol y credyd treth gwaith fel y’i pennir yn adran 11(6)(d) o Ddeddf Credydau Treth 2002 (cyfradd uchaf);

ystyr “elfen plentyn” (“child element”) yw elfen plentyn credyd cynhwysol fel y’i pennir yn rheoliad 24(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013(16) (yr elfen plentyn);

ystyr “gallu cyfyngedig i weithio” (“limited capability for work”) yw gallu cyfyngedig i weithio neu allu cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgarwch sy’n ymwneud â gwaith fel y’u dehonglir yn unol â rheoliadau 39 a 40, yn y drefn honno, o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013(17) (gallu cyfyngedig i weithio; gallu cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgarwch sy’n ymwneud â gwaith);

mae i “hawlwyr ar y cyd” yr ystyr a roddir i “joint claimants” yn adran 40 o Ddeddf 2012 (dehongli Rhan 1);

mae i “hawlydd unigol” yr ystyr a roddir i “single claimant” yn adran 40 o Ddeddf 2012 (dehongli Rhan 1);

ystyr “incwm a enillir” yw’r incwm a enillir gan berson fel y diffinnir “earned income” gan Bennod 2 o Ran 6 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013 (cyfrifo cyfalaf ac incwm – incwm a enillir);

ystyr “incwm blynyddol gros” (“gross annual income”) yw incwm a gyfrifir ar gyfer blwyddyn dreth at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf Credydau Treth 2002 yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 7 o’r Ddeddf honno (prawf incwm);

mae i “lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm” yr ystyr a roddir i “an income-based jobseeker’s allowance” gan adran 1(4) o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(18) (y lwfans ceisio gwaith);

ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm” (“income-related employment and support allowance”) yw lwfans cyflogaeth a chymorth, y mae hawlogaeth iddo yn seiliedig ar adran 1(2)(b) o Ddeddf Diwygio Lles 2007(19) (lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm);

mae i “person ifanc cymhwysol” yr ystyr a roddir i “qualifying young person” yn adran 10(5) o Ddeddf 2012 (cyfrifoldeb am blant a phobl ifanc);

ystyr “terfyn cyfalaf” (“capital limit”) yw’r swm a ragnodir at ddibenion adran 134(1) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 (eithriadau rhag budd-daliadau) fel y mae’n gymwys i gymhorthdal incwm.

(9Yn y paragraff hwn a pharagraff 2—

ystyr “hysbysiad o hawlogaeth” (“notice of entitlement”) yw hysbysiad a ddyroddir o dan reoliad 8 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 (hysbysiadau o hawlogaeth);

ystyr “teclyn cymhleth” (“complex appliance”) yw teclyn optegol y mae’r canlynol yn wir am o leiaf un lens ynddo—

(a)

mae ganddi bŵer plws neu minws 10 neu ragor o ddioptrau yn unrhyw un o’r meridianau, neu

(b)

mae’n lens amlffocal a reolir gan brism.

Tystiolaeth benodol o gymhwystra ar gyfer personau penodol

2.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), y dystiolaeth benodol a grybwyllir yn rheoliad 6(5) yw—

(a)ar gyfer person nad yw’n gymwys ond yn rhinwedd paragraff 1(1)(d) a (2)(c) neu (d), hysbysiad cyfredol o hawlogaeth;

(b)ar gyfer person nad yw’n gymwys ond yn rhinwedd paragraff 1(1)(e), y presgripsiwn am declyn cymhleth a ddyroddwyd i’r person hwnnw pan brofwyd golwg y person ddiwethaf;

(c)ar gyfer person nad yw’n gymwys ond yn rhinwedd paragraff 1(1)(g), enw a chyfeiriad ymarferydd meddygol y person hwnnw a chydsyniad i’r Bwrdd Iechyd Lleol geisio cadarnhad oddi wrth ymarferydd meddygol y person hwnnw fod gan y person ddiabetes neu glawcoma, wedi eu nodi ar ffurflen a ddarperir at y diben hwnnw i gontractwyr gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

(2Pan na fo person cymwys y mae is-baragraff (1)(b) yn gymwys iddo yn gallu bodloni gofynion yr is-baragraff, caiff y contractwr, yn lle ei fodloni ei hun bod y gofynion hynny wedi eu bodloni, ei fodloni ei hun bod y person yn berson cymwys drwy gyfeirio at gofnodion y contractwr ei hun neu drwy fesur pŵer y lensys yn nheclyn optegol presennol y person drwy gyfrwng ffocimedr neu drwy ddull arall sy’n addas.

(3)

O.S. 2007/121 (Cy. 11), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(4)

1989 p. 41; mewnosodwyd adran 23A gan adran 2(4) o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p. 35) ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 8(3) o Atodlen 3 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p. 23) a chan reoliad 74 o O.S. 2016/413 (Cy. 131).

(5)

2002 p. 21; mae Rhan 1 wedi ei diddymu ac eithrio mewn perthynas ag achos y cyfeirir ato yn erthygl 3 o O.S. 2019/167.

(6)

Ychwanegwyd adran 34D gan baragraff 10 o Atodlen 1 i Orchymyn Ymarfer Meddygol Cyffredinol ac Arbenigol (Addysg, Hyfforddiant a Chymwysterau) 2010 (O.S. 2010/234) ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 19 o Atodlen 1(1) i O.S. 2019/593.

(7)

2012 p. 5; mae diwygiadau i Ran 1 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(8)

1992 p. 4; diwygiwyd adran 137(1) gan baragraff 22 o Atodlen 1 i O.S. 2014/560. Mae diwygiadau eraill i’r adran honno nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(9)

1995 p. 18; diwygiwyd adran 35 gan baragraff 124(3) o Atodlen 24(7) i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33). Mae diwygiadau eraill i’r adran honno nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(10)

O.S. 2002/2006, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/1919; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(11)

O.S. 2008/794, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(12)

Gweler adran 1(1) o Ddeddf Dedfrydu 2020 (p. 17) sy’n datgan bod Rhannau 2 i 13 o’r Ddeddf honno gyda’i gilydd yn ffurfio cod o’r enw’r “Sentencing Code”.

(13)

2002 p. 16; diwygiwyd adran 2 gan Atodlen 24 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33).

(14)

O.S. 2013/376; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2014/2887 ac O.S. 2018/65.

(15)

O.S. 1987/1969, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(16)

O.S. 2013/376, a ddiwygiwyd gan Ddeddf Diwygio Lles a Gwaith 2016 (p. 7), adran 14(5); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(17)

O.S. 2013/376, a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/597.

(18)

1995 p. 18; diddymwyd adran 1(4) gan Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p. 5), Atodlen 14, paragraff 1. Mae’r diddymiad hwnnw yn cael effaith ar ddiwrnodau gwahanol ar gyfer ardaloedd gwahanol ac at ddibenion gwahanol mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 1 o Ddeddf 2012 (p. 5) neu yn Rhan 1 o Atodlen 14 i’r Ddeddf honno.

(19)

2007 p. 5.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources