YR ATODLENNI

ATODLEN 4Telerau Gwasanaeth

Archwiliadau llygaid 24

1

Rhaid i gontractwr ddarparu archwiliad llygaid i berson o dan yr amgylchiadau yn is-baragraff (2).

2

Yr amgylchiadau yw bod ymarferydd cymwysedig yn ystyried ei bod yn briodol yn glinigol i ddarparu archwiliad llygaid i berson—

a

oherwydd canfyddiadau clinigol sydd wedi dod i’r amlwg wrth ddarparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol neu yn ystod prawf golwg a ddarperir ac eithrio o dan y Ddeddf, i’r person hwnnw,

b

yn dilyn argymhelliad gan broffesiynolyn gofal iechyd y dylai’r person gael archwiliad gan ymarferydd cymwysedig,

c

oherwydd bod gan y person broblem llygaid acíwt, neu y gall fod ganddo broblem llygaid acíwt, neu

d

at ddiben adolygu iechyd llygaid y person yn dilyn—

i

triniaeth mewn ysbyty offthalmig, neu

ii

archwiliad llygaid blaenorol o dan is-baragraff (c).

3

Pan fo contractwr yn darparu archwiliad llygaid fel rhan o wasanaethau symudol, rhaid i’r contractwr gofnodi’r rheswm a roddir gan y claf, neu ar ei ran, pam y mae arno angen gwasanaethau symudol, ar y ffurflen gwasanaethau offthalmig sylfaenol.

4

At ddibenion y paragraff hwn, ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” yw person sy’n aelod o broffesiwn a reoleiddir gan gorff a grybwyllir yn adran 25(3) o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 200262 (yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol).