xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 1113 (Cy. 193)

Addysg, Cymru

Gorchymyn y Cod Apelau Derbyn i Ysgolion (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2023

Gwnaed

23 Hydref 2023

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 85(5) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Apelau Derbyn i Ysgolion (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2023.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Y diwrnod penodedig

2.  Y diwrnod penodedig i’r Cod Apelau Derbyn i Ysgolion (y gosodwyd copi o ddrafft ohono gerbron Senedd Cymru ar 7 Awst 2023) ddod i rym yw 1 Tachwedd 2023.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

23 Hydref 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu 1 Tachwedd 2023 fel y diwrnod y daw’r Cod Apelau Derbyn i Ysgolion (“y Cod”) a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 84 a 85 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”) i rym. Mae’r Cod yn gymwys o ran Cymru ac mewn perthynas â derbyniadau i’r flwyddyn ysgol 2023/2024 a blynyddoedd dilynol. Mae’r Cod yn disodli’r Cod Apelau Derbyn i Ysgolion a ddyroddwyd ym mis Rhagfyr 2013 ac a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2014.

Mae’r Cod yn gosod gofynion ac yn cynnwys canllawiau sy’n nodi nodau, amcanion a materion eraill mewn perthynas â’r trefniadau ar gyfer apelau mewn perthynas â derbyn i ysgolion. O dan adran 84(3) o Ddeddf 1998, dyletswydd awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, fforymau derbyn a phaneli apêl, wrth arfer swyddogaethau o dan Bennod 1 o Ran 3 o Ddeddf 1998, yw gweithredu yn unol ag unrhyw ddarpariaethau perthnasol yn y Cod. Yn ogystal, rhaid i unrhyw berson arall, wrth arfer unrhyw swyddogaeth at ddiben cyflawni, gan awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir, swyddogaethau o dan y Bennod honno, weithredu yn unol ag unrhyw ddarpariaethau perthnasol yn y Cod.

Y prif newidiadau a gyflwynir yn y Cod hwn yw—

(a)pŵer i awdurdodau derbyn i benderfynu, o dan amgylchiadau penodol, pa un a yw gwrandawiad apêl i’w gynnal yn bersonol, drwy fynediad o bell (“apêl o bell”) neu’n rhannol yn bersonol ac yn rhannol drwy fynediad o bell (“apêl hybrid”),

(b)dyletswydd, os yw’r awdurdod derbyn yn penderfynu cynnal apêl o bell neu apêl hybrid, fod rhaid iddo wneud yr holl drefniadau angenrheidiol er mwyn i’r panel apêl gael mynediad at yr offer mynediad o bell angenrheidiol, ac

(c)pŵer i’r awdurdodau derbyn i benderfynu y caniateir penderfynu apêl ar sail gwybodaeth ysgrifenedig yn unig, o dan amgylchiadau penodol.

(1)

1998 p. 31. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).