NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

O dan adran 160A(3) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (“Deddf 1996”), mae person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn anghymwys i gael dyraniad o lety tai gan awdurdod lleol oni bai ei fod yn dod o fewn dosbarth o bersonau a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. O dan adran 160A(5) caiff Gweinidogion Cymru ragnodi dosbarthau o bersonau sydd, er nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, yn anghymwys i gael dyraniad o lety tai.

O dan baragraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) (“Deddf 2014”), mae person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn anghymwys i gael cymorth tai o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf honno oni bai ei fod yn dod o fewn dosbarth o bersonau a ragnodir mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru (neu’r Ysgrifennydd Gwladol). O dan baragraff 1(4) caiff Gweinidogion Cymru (neu’r Ysgrifennydd Gwladol) ragnodi dosbarthau o bersonau sydd, er nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, yn anghymwys i gael cymorth tai.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2603 (Cy. 257)) (“Rheoliadau 2014”) sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer pa bersonau, sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai ac i gael cymorth tai. Mae Rheoliadau 2014 hefyd yn gwneud darpariaeth o ran personau nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ond sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai a chymorth tai.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2014 sy’n ymwneud â chymhwystra personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael dyraniad o lety tai o dan Ddeddf 1996. Mae’n rhagnodi dosbarth ychwanegol o bersonau (“Dosbarth O”) sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai o dan Ddeddf 1996.

Mae Dosbarth O yn gymwys i bersonau penodol a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023, ac a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad. Bydd y personau hynny yn gymwys os ydynt wedi cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971 (p. 77), os nad yw eu caniatâd yn ddarostyngedig i’r amod ‘heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus’ ac na chafodd eu caniatâd ei roi oherwydd ymgymeriad cynhaliaeth sydd yn dal i fod yn gymwys.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 4(2) o Reoliadau 2014 i ddarparu bod personau penodol nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ond y byddent yn anghymwys i gael dyraniad o lety tai oherwydd nad ydynt yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw na Gweriniaeth Iwerddon yn gymwys i gael dyraniad o lety tai. Y personau y mae’r diwygiad hwn yn gymwys iddynt yw’r rhai a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023 ac a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 5(1) o Reoliadau 2014 sy’n ymwneud â chymhwystra personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo i gael cymorth tai o dan Ddeddf 2014. Mae’n rhagnodi dosbarth ychwanegol o bersonau (“Dosbarth P”) sy’n gymwys i gael cymorth o’r fath. Mae’r dosbarth hwn yn cyfateb i Ddosbarth O a fewnosodir gan reoliad 3.

Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 6(2) o Reoliadau 2014 fel bod personau penodol nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, ond y byddent yn anghymwys i gael cymorth tai oherwydd nad ydynt yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw na Gweriniaeth Iwerddon, yn gymwys. Y personau y mae’r diwygiad hwn yn gymwys iddynt yw’r un personau â’r rheini a fewnosodir gan reoliad 4.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.