Enwi a dod i rym1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) 2023 a daw i rym ar 11 Rhagfyr 2023.

Dehongli2

Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru” yw’r ddogfen y rhoddir effaith iddi gan erthygl 2 o Orchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) 20132.

Addasu3

Mae Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru yn cael effaith yn ddarostyngedig i’r addasiadau a bennir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

Vaughan GethingGweinidog yr Economi, un o Weinidogion Cymru