1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) 2023 a daw i rym ar 11 Rhagfyr 2023.
2. Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru” yw’r ddogfen y rhoddir effaith iddi gan erthygl 2 o Orchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) 2013(1).
3. Mae Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru yn cael effaith yn ddarostyngedig i’r addasiadau a bennir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
Vaughan Gething
Gweinidog yr Economi, un o Weinidogion Cymru
17 November 2023