Diwygio’r Ddeddf2
1
Mae’r Ddeddf wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Yn Atodlen 2 (eithriadau i adran 7)—
a
yn Rhan 3 (tenantiaethau a thrwyddedau nad ydynt byth yn gontractau meddiannaeth)—
i
ym mharagraff 7(3)7, ar ddiwedd paragraff (k), mewnosoder—
l
trwydded sy’n ymwneud â llety digartrefedd dros dro sector preifat (gweler paragraff 10A).
ii
ar ôl paragraff 10 mewnosoder—
Ystyr “llety digartrefedd dros dro sector preifat”10A
1
Llety digartrefedd dros dro sector preifat yw llety—
a
a ddarperir gan landlord preifat o dan drefniadau a wneir gydag awdurdod tai lleol yn unol ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau darparu tai i’r digartref yr awdurdod hwnnw, a
b
sydd o fewn y diffiniad o “llety Gwely a Brecwast” yn erthygl 2 (dehongli) o Orchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1268 (Cy. 87)), fel y mae’n cael effaith ar 30 Tachwedd 2023, sef y dyddiad y daeth Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/1277 (W. 225)) i rym.
2
Yn y paragraff hwn mae i “awdurdod tai lleol” a “swyddogaethau darparu tai i’r digartref” yr ystyron a roddir ym mharagraff 12(5).
b
yn Rhan 4 (tenantiaethau a thrwyddedau y mae rheolau arbennig yn gymwys iddynt: digartrefedd), ym mharagraff 12(1), ar ôl “llety” mewnosoder “, ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thrwydded o’r math a ddisgrifir ym mharagraff 7(3)(l)”.
3
Yn adran 243(3) (awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill), ar ôl “ac eithrio ym mharagraff” mewnosoder “10A a pharagraff”.