Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023
2023 Rhif 1288 (Cy. 226)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Tribiwnlysoedd Ac Ymchwiliadau, Cymru

Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 17(2) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 20231 (“Deddf 2023”).
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 59(3) o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 20082 (“Deddf 2008”) ac maent wedi cynnal ymgynghoriad yn unol ag adran 60(1) a (2) o’r Ddeddf honno3.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, yn unol ag adran 66 o Ddeddf 2008, y bydd awdurdodau lleol (sef y rheoleiddiwr at ddibenion y Rheoliadau hyn) yn gweithredu yn unol â’r egwyddorion y cyfeirir atynt yn adran 5(2) o’r Ddeddf honno wrth arfer pŵer a roddir gan y Rheoliadau hyn.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad, yn unol ag adran 21(3) o Ddeddf 2023.