Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 17 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023. Maent yn galluogi awdurdod lleol, fel y rheoleiddiwr, i osod sancsiynau sifil mewn perthynas â’r drosedd o dan adran 5 o’r Ddeddf honno.
Y sancsiynau sifil yw cosbau ariannol penodedig, cosbau ariannol amrywiadwy, hysbysiadau cydymffurfio, hysbysiadau stop ac ymgymeriadau gorfodi (rheoliad 3).
Mae’r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn sy’n ymwneud â chosbau ariannol penodedig (Atodlen 1), cosbau ariannol amrywiadwy, hysbysiadau cydymffurfio ac ymgymeriadau trydydd parti (Atodlen 2), hysbysiadau stop (Atodlen 3) ac ymgymeriadau gorfodi (Atodlen 4).
Maent yn caniatáu i’r rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad sy’n gosod cosb am beidio â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio neu ymgymeriad trydydd parti (rheoliad 7).
O dan reoliad 8 caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad adennill cost gorfodaeth mewn perthynas â chostau ymchwilio a gweinyddu, a chostau cael gafael ar gyngor arbenigol, y mae wedi mynd iddynt.
Mae rheoliad 10 yn nodi’r drefn apelio. Gwneir apelau i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.
Mae rheoliadau 11 i 13 yn darparu bod rhaid llunio canllawiau sy’n ymwneud â defnyddio sancsiynau sifil a chynnal ymgynghoriad arnynt, ac mae rheoliad 14 yn darparu ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth am gamau gorfodi a gymerir gan y rheoleiddiwr.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Is-adran Diogelu’r Amgylchedd, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.