xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Sancsiynau Sifil) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2023.
(3) Ac eithrio pan fo’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i’r gwrthwyneb, mae i dermau Cymraeg yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i dermau Saesneg a ddiffinnir yn Rhan 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 yr un ystyr â’r termau hynny yn y Rheoliadau hyn.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol ar gyfer ardal yng Nghymru;
ystyr “Deddf 2023” (“the 2023 Act” ) yw Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023;
ystyr “person” (“person”) yw’r disgrifiadau o berson a nodir yn adran 5(2) (y drosedd o gyflenwi cynhyrchion plastig untro gwaharddedig) o Ddeddf 2023 ac eithrio pan fo’r cyd-destun yn mynnu fel arall.
2. Awdurdod lleol yw’r rheoleiddiwr at ddibenion y Rheoliadau hyn.