7.—(1) Os yw person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio neu ymgymeriad trydydd parti, caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad i’r person hwnnw sy’n gosod cosb ariannol (“cosb am beidio â chydymffurfio”) mewn cysylltiad â’r un drosedd ni waeth a osodwyd cosb ariannol amrywiadwy hefyd mewn cysylltiad â’r drosedd honno.
(2) Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu swm y gosb, a rhaid i’r swm hwnnw fod yn ganran o gostau bodloni gweddill gofynion yr hysbysiad neu’r ymgymeriad trydydd parti.
(3) Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu’r ganran gan roi sylw i holl amgylchiadau’r achos, a chaiff y ganran honno fod yn 100%, os yw’n briodol.
(4) Rhaid i’r hysbysiad gynnwys gwybodaeth am—
(a)y seiliau dros osod y gosb am beidio â chydymffurfio;
(b)y swm sydd i’w dalu;
(c)sut y mae rhaid talu;
(d)o fewn pa gyfnod y mae rhaid talu, na chaiff fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau;
(e)yr hawl i apelio;
(f)canlyniadau methu â thalu o fewn y cyfnod penodedig;
(g)unrhyw amgylchiadau pan gaiff y rheoleiddiwr leihau swm y gosb.
(5) Os bodlonir gofynion yr hysbysiad cydymffurfio neu os cyflawnir ymgymeriad trydydd parti cyn y terfyn amser ar gyfer talu’r gosb am beidio â chydymffurfio, nid yw’r gosb yn daladwy.
(6) Caiff y person y cyflwynir iddo’r hysbysiad sy’n gosod y gosb am beidio â chydymffurfio apelio yn ei erbyn.
(7) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad i gyflwyno’r hysbysiad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol am unrhyw reswm;
(d)bod swm y gosb yn afresymol;
(e)unrhyw reswm tebyg arall.