8.—(1) Caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad adennill cost gorfodaeth”) i berson y cyflwynwyd hysbysiad cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop iddo sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw dalu’r costau y mae’r rheoleiddiwr wedi mynd iddynt mewn perthynas â gosod yr hysbysiad hwnnw hyd at yr adeg y’i gosodwyd.
(2) Mae costau yn cynnwys yn benodol—
(a)costau ymchwilio;
(b)costau gweinyddu;
(c)costau cael gafael ar gyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).
(3) Rhaid i’r hysbysiad adennill cost gorfodaeth bennu—
(a)y seiliau dros osod yr hysbysiad;
(b)y swm y mae’n ofynnol ei dalu;
(c)sut y mae rhaid talu;
(d)o fewn pa gyfnod y mae rhaid talu, na chaiff fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau;
(e)yr hawl i apelio; ac
(f)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad o fewn y cyfnod penodedig.
(4) Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo ei gwneud yn ofynnol i’r rheoleiddiwr ddarparu dadansoddiad manwl o’r swm.
(5) Nid yw’r person y mae’n ofynnol iddo dalu costau yn agored i dalu unrhyw gostau y mae’r person hwnnw’n dangos yr aed iddynt yn ddiangen.
(6) Caiff y person y mae’n ofynnol iddo dalu costau apelio—
(a)yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr i osod y gofyniad i dalu costau;
(b)yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr o ran swm y costau hynny; neu
(c)am unrhyw reswm tebyg arall.